Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PERCON.—DUW a roddo ei fendith ar y Farwnad yna, i ddangos i rywun y trueni sydd o garu y ddaear yn fwy na'r nefoedd. Ond ewch at fywyd a marwolaeth Prodigalus ei gymydog, a mynegwch eich sylw ar lwnw, o'r pryd y daethoch i'w adnabod i'r pryd yr ymadawodd â'r byd hwn.

CANT.—Efe oedd o dylwyth uchel yn Midian; enw ei fam e oedd Cosbi, merch Sur, tywysog Midian; ond ei dad ef oedd Amoriad—un o'r Cenhedloedd a yrodd yr ARGLWYDD ymaith o flaen meibion Israel. Fe'i ganwyd ef yn nhir Nod, lle ffodd Cain o bresenoldeb yr ARGLWYDD am ladd o hono Abel ei frawd. Ei dad ef a grynhodd olud fel golud Cresus, trwy drais, cam, a gorthrymder, fel Avaritius ei hun; am hyny angen ydoedd eu gwasgaru hwynt gan rai o'r etifeddion —fel dywed yr hen fardd,—

Yr hyn a gesglir trwy gybydd-dra,
Y mab afradlon a'i gwasgara.

Ond Prodigalus, pan oedd eto ond bachgen, am nas mynai ei dad gostio wrtho, a gadwodd gwmpeini dynion anfoesol a drwg, y rhai yn ei ieuengctyd a'i cynefinodd â phob drygioni; ei gyfeillion ef oedd y meddwon, a hyny yn foreu iawn; eu llawenydd hwy oedd ei lawenydd yntau, a'u cân hwy oedd ei gân yntau; yn eu cwmpeini yr oedd y dulsimer, y delyn, a'r dawns: ond gwaith yr ARGLWYDD oedd bell oddiwrthynt. Yma y treuliodd Prodigalus arian fel gro yr afon, arian ag oedd ei hynafiaid wedi gadw iddo erbyn ei ddiwrnod; ac yma gollyngodd ei aur, er ys blynyddau mewn carchar, yn rhydd o'u caethiwed; a chyfoeth ag oedd ddyledus i'r gweiniaid a doddwyd yn awr yn ddiod gadarn; fe lyngcwyd codenau aur i lawr yn win melusaf; ac eto rhy fach o olud a gasglwyd iddo i borthi pob chwant. Ei geg oedd fel fflodiad y felin; nid oedd digon o wlybrwydd iddo gael tu yma i'r môr; fel y llwngc tir cras, sychedig ddwfr, felly llyngcai Prodigalus sudd y winwydden, heb fod ei syched ronyn llai; dydd at ddydd a gynyddodd ei feddwdod, nos at nos a chwanegodd ei flys, nes o'r diwedd iddo fyned yn ben ac yn arglwydd ar ei holl gyfeillion: yr olaf yn flaenaf, yr ieuangaf o flaen pawb; mor barod yw natur i ddysgu yr hyn sydd ddrwg. Erbyn hyn nid oedd na ffrae na chynwrf, gwaed na chlwyfau, nad oedd Prodigalus â'r llaw flaenaf ynddynt; a chymaint hefyd yr ymarferodd â hyn, nes daeth ymrafaelio fel bwyd i'w enaid. A hyn a'i dygodd ef i ymhyfrydu yn y gyfraith wladol, yr hon aeth bob yn ronyn yn bleser nesaf i'w fol iddo ef. Yn awr ni adawai efe na chwrt na brawdlys heb fod yn bresenol; ac nis cai ustus heddwch lonydd, ond ei flino âg achosion ymrafael o'r boreu i'r pryd-