Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nawn. Anhawdd, y dyddiau hyny, cael un achos cyfraith yn ei ardal nad oedd ganddo ef law ynddo; cymaint pleser oedd ganddo i ymddial fel mai gwell oedd ganddo wario can' dryll o arian na dyoddef colli haner un o'r rhai hyny; a hyn a'i harweiniodd ef (fel y mae un pechod yn arwain un arall) i ymbleseru mewn anudoniaeth, yr hwn sy'n dilyn ymgyfreithio fel gogysgod yn dilyn gŵr. Ac nid digon iddo ei fod ef ei hun yn ymarferyd â'r bai ysgeler, ond rhaid ydoedd dysgu i ereill hefyd y weithred ysgymun, fel y b'ai ef a'i gyfeillion yn sicr o enill y treial, bid gam neu gymhwys; a dyfod allan gyda hwre oddi ger bron y barnwr, er bod y tlawd yn cael ei orthrymu yn chwerw-dost trwy y fath annghyfiawnder di-drugaredd. Ond hyn oll a berodd iddo wasgaru ei dda mor ddisymwth fel y dechreuodd tlodi ei gyfarch, a gorfu iddo wystlo yr etifeddiaethau llydain a gafodd ei hynafiaid ar wystl gan ereill, heb eu rhoddi byth yn eu hol. Fel hyn y daw yr afon yn mhen blynyddau yn ol i'w therfynau cyntaf; ond er hyn oll ni ddychwelodd efe o'i ffyrdd drygionus, ond aeth rhagddo yn gildynus, gan chwanegu eto bechod at bechod; tyngu a phuteinio sydd gyfeillion yn fynych i loddest a meddwdod: "godineb a gwin newydd sydd yn tynu y galon oddiwrth Dduw." Yntau a halogodd amryw o ferched diwair, ac a'u llithiodd bob yn ychydig ac yn ychydig i wystlo eu diweirdeb i'w drachwantau ef, ac a'u denodd i wared i ffordd dystryw, nes myned o honynt yn ddrewdod i'r byd, ac yn waradwydd iddynt eu hunain. Ond O druenus ddyn! Ni safodd Prodigalus yma chwaith, ond aeth rhagddo yn ddiatal i gyflawni pob drwg yn un chwant—malais, llid, cenfigen, hoced, celwydd, trais, puteindra, meddwdod, a chyfeddach, yn nghyda'r holl dorfeydd sydd yn eu canlyn o bechodau, a lanwodd ei ysbrydoedd fel y dyfroedd yn llanw y môr; ac nid oedd o'i fewn yn awr ond llety i ddiafol—ffau i holl fwystfilod rheibus y pwll diwaelod oedd ei ysbryd aflan ef.

PERCON.—A oedd ei olud eto yn para? Pa ddull yr oedd ei iechyd? Am ei enw, gwn ei fod wedi ehedeg ymaith fel aderyn.

CANT.—Ei olud yr awr hon oedd wedi treio fel llif nentydd y mynyddoedd, ei barch a ddarfu fel yr oedd y golud yn darfod; ac nid pell oedd iechyd oddiwrth ddianc arno ef; ac nid ychydig o gymydogion o'r un ysbryd ag Avaritius oedd bob dydd yn dysgwyl am ei gwymp, ac am lyngcu ei dyddynod, fel gwnaeth ei dad ef â thyddynod ereill, y rhai oedd eto yn rhoi arian gyda phleser, ac yntau mor ddall heb wybod eu bod hwy yn ei brynu ef â'i holl feddianau; y rhai hyn yn y diwedd gafodd fod yn etifeddion iddo, ac a wnaeth-