Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na rheg o'i enau ef, ond gwastad ac amyneddgar fyddai pawb o honynt yn eu holl ymdriniaethau â dynion poethion. Ei dŷ ef oedd yn deml i'r ARGLWYDD DDUW: yno yr oedd addoliad boreuol a phrydnawnol, fel yn mhabell yr ARGLWYDD; yr oedd yr holl deulu mor hyddysg yn Meibl y cysegr ag yw plentyn ysgol yn ei ramadeg: hyfryd oedd ei feibion a'i ferched yn ymbyncio o hono, ac yn bendithio Duw mewn salmau, hymnau, ac odlau ysbrydol trwy gydol faith y dydd a'r nos; ei holl deulu ef oedd wedi eu dysgu yn egwyddorion y ffydd, a holl hanesion yr Ysgrythyr—Lân. Yn fyr, ei dŷ ef oedd megys coleg o dduwinyddion—pawb oedd yno yn ddarllenwyr, yn weddiwyr, yn athrawon, ac yn brophwydi; ac yr wyf yn meddwl nas gwelais mewn man dan y nef ragor o ffyddlondeb i benteulu, dysgyblaeth mwy manwl, na gwell rheolau, ac oll yn cael eu cadw i'r manylrwydd mwyaf. Chwi ryfeddech y fath drefn fanwl, ddoeth, ac adeiladol oedd yn y teulu hwnw; diau fod Ysbryd y Duw byw yn cyfarwyddo y rhai a'i gosododd hi. Yma yr oedd gwaith neillduol i bob un, a chymhwysder rhyfeddol yn mhob un at ei orchwyl. Yma yr oedd pwys a chaledi y gwaith yn ateb grym, oedran, a deall y gweithiwr. Nid oedd yma na chymysg nac annhrefn, nac un byth yn rhedeg i waith y llall; ond y fath gydsain hawddgar a rheolaidd i maes ac i mewn, fel yr oedd doethineb y nef i'w weled yn y gosodiad o honynt. Ac O y ffyddlondeb oedd yn mhob un i'w feistr,—yn hytrach i'r ARGLWYDD! Pawb y tu cefn i'r goruchwyliwr fel o flaen ei wyneb, a'u holl egni i ddwyn y gorchwyl hwnw yn mlaen. A phe buasech ond edrych arnynt dros ronyn yn eu haddoliad teuluaidd, yma yr oedd y fath harddwch, a blas, a phleser nas annghofiaf o hono byth. Pan gyntaf y tarawai y gloch yr awr weddi, deuai yr holl deulu—yn blant, yn wasanaethddynion, a dyeithriaid—yn nghyd i'r lle apwyntiedig o addoliad; yr oedd yr ystafell wedi ei haddasu i'r pwrpas hyn, yn mha le yr ymddangosent oll gyda difrifwch, pwyll, ac eithaf prysurdeb.[1]* Fidelius ei hun oedd yr offeiriad, a'i swydd a roed iddo gan yr Hwn sydd yn caethiwo caethiwed ac yn rhoi rhoddion i ddynion; efe a ddarllenai ran o air Duw yn ystyriol ac yn ddifrifol, ac a agorai y rhan hyny gyda gwres, profiad, a goleuni; a'i holl deulu yn ei dderbyn fel o enau yr ARGLWYDD. Yna Fidelius a daer weddiai ar yr ARGLWYDD dros ei deulu, yn nghyda holl ddynolryw, a'i weddi ef oedd fel diliau mél; ei afael oedd mor gryfed nas gollyngai o DDUw nes rhoi iddo ryw arwydd o fendith: ond ar ol y cwbl byddent sicr o ganu hymn, a thyma y canú goreu a glywais i erioed—torf o ddynion (canys teulu

  1. Prysurdeb—difrifwch.