Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fidelius oedd aml) â'u holl galon yn moli Duw, ac yn swnio ei glod nes rhoi calon y rhai llesg i ganu a bendithio. Ac yr awr hon, wedi Fidelius farw, mae ei holl dŷ ef eto yn dilyn yr ARGLWYDD yn ddiwahan; ac efe, trwy ei ymarweddiad da, ei gynghorion, a'i ysbryd, a genedlodd fywyd yn eu cydwybodau nas ymedy â hwynt tra fyddont fyw yn y byd, fel yr wyf yn gobeithio: canys ni fyn ei feibion na'i ferched y dydd heddyw, mwy nag yntau, i gyfeillachu dim â'r byd annuwiol. Ond fel plant Jonadab, mab Rechab, na fynai yfed gwin, er ei daer gymhell ef arnynt, am i'w tad orchymyn felly iddynt ; felly hwythau, nis gwnant gyfeillion mynwesol o neb ond y sawl sydd yn teithio tua mynydd Seion (y mae y fath effeithiau daionus gan siamplau da rhieni ar fywyd y plant), ond yn unig a fyddo o bur angenrheidrwydd mewn gwlad a chymydogaeth, er mwyn cadw i fyny gariad, heddwch, ac undeb, prynu a gwerthu, yr hyn a drefnodd yr ARGLWYDD er cynal bywyd dynolryw. Yr oedd Fidelius wedi derbyn llawer o'r byd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ei fendithio fel y bendithiodd Isaac. Ei dir oedd yn cnydio yn gan' dyblyg, fel nad oedd meusydd cyffelyb i'w feusydd ef trwy holl wlad yr Aipht: ond hyn oedd mor bell o'i roi ef yn gybyddlyd, fel yr oedd ei law yn estyn allan fel yr oedd llaw Duw yn dwyn i mewn. Nis gwelais â'm llygaid un mor haelionus, ac nis clywais â'm clustiau am un mor synwyrol a doeth yn cyfranu, yn adnabod ei amser i roi, a'i amser i beidio; gwrthddrychau cymhwys ac annghymwys, a pha roddion oedd oreu i bawb i'w cael. Dillad roddai efe i'r noeth, bwyd i'r newynog, arian i'r angenog, meddyginiaeth i'r claf, cerydd i'r afreolus, cynghor i'r dall a'r annghyfarwydd, rhybudd i'r ffol a'r cyndyn, cymorth, nerth, a dyddanwch i'r weddw a'r amddifad; yn fyr, tad pob gwan a rheidus, brawd pob llwfr a thrafferthus, ac amddiffynfa gadarn i'r hwn fyddai ar gael ei lyngcu gan fwystfilod rheibus y byd hwn, oedd Fidelius; ond eto dialydd ar y rhai oedd yn bwyta pobl DDUW fel y bwytaent fara; ac yn fynych y dygodd efe yr ysglyfaeth o law y cadarn, ac yr anrheithiodd efe y rhai oedd am ddamsang anwyliaid yr ARGLWYDD dan eu traed. Yr oedd y gŵr duwiol hwn yn adnabod ysbrydoedd dynion yn fwy rhyfeddol nag y gallech. gredu; fe dreiddiai ei lygaid i mewn i galonau i ddeall gwahaniaeth rhwng tlawd a thlawd, gonest a dichellgar; gwir wrthddrych elusen oddiwrth yr hwn nad oedd mewn eisieu. Rhifedi o weddwon a waredodd efe o ddwylaw eu gorthrymwyr, lluoedd o amddifaid a fagodd ac a feithrinodd efe ar ei draul ei hun; ei dŷ ef oedd yn dŷ amddifaid, a'i fwrdd oedd. bwrdd y rhai diymgeledd. Mae lluaws o blant heini, o