Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feibion gwrol, ac o wŷr anrhydeddus heddyw yn nhir Ham ag a ddygodd Fidelius i fyny, wedi eu cael yn dlawa, yn noeth, ac yn hollol ddiymgeledd. O, pwy all rifo cynifer un ag a daflwyd allan o'u llety, ag y parotodd ef lety iddynt; fe gywilyddiodd ac a faeddodd eu gorthrym wyr trwy drugarhau wrth y rhai nad oedd rhwymedigaeth arno i wneud da iddynt ond er hyn oll, nid ydoedd ei sêl byth yn enyn i'r eithaf, na'i galon yn gwresogi byth i'r fath raddau wrth un weithred dda, na phan byddai yn rhyfela o blaid y saint. Nid oedd dyn llareiddiach na Moses tan y nef, eto gwelwch ei boethder dros waith yr ARGLWYDD, a daioni ei bobl. Fidelius fel yntau a enynai yn dân yn achos etholedigion Duw, ac a'u hamddiffynai fel pe buasai ei achos ei hunan; yr oedd yn edrych mai'r gwaith penaf a feddai efe ar y ddaear oedd gwneud daioni i eglwys DDUW; yr oedd holl gorph teml yr ARGLWYDD iddo fel un plentyn; a gosododd ei holl feddylfryd ar eu hamddiffyn a'u hachub rhag geiriau drwg, gorthrymderau, tlodi, gofidiau, a phob maglau ereill oddiwrth y byd a'r diafol, ag allai efe eu cadw rhagddynt. Yma y gwelais gyflawni yr Ysgrythyr am ofalu am y gwir weddwon, y rhai sydd nos a dydd yn gweddio Duw, yn amddifad o bob peth ond yr ARGLWYDD. Fe fedrai Fidelius adnabod gwahaniaeth rhwng y rhai hyn a'r rhai gwag siaradus, rhodresgar, ag oedd yn dwyn chwedlau o dŷ i dŷ, ac adrodd pethau nad oeddent weddus; y rhai sydd yn peri annghydfod, terfysg, ac ymrafael rhwng rhai anwyl Duw; ond y gweddwon oedd Fidelius yn dad iddynt, oedd wŷr a gwragedd analluog i weithio, ac wedi rhedeg i dlodi trwy orthrymder neu letygarwch, y rhai oedd yn dwyn gair da gan yr holl eglwys, ac wedi bod eu hunain yn gynorthwyol, ac yn golchi traed y saint; yn awr yn ufudd, yn dirion, yn addfwyn, ac yn ostyngedig, yn chwanog, yn ol eu gallu, i wneud eu goreu bobl yr ARGLWYDD; rhai o honynt yn hen ac oedranus, ereill o fewn terfynau oedran, fel gwyryfon pur yn gweithio â'u dwylaw, heb fod yn fodlon i fwyta bara segurdod. Fidelius oedd yn wastad, ar bob siwrnai, yn manwl holi am weiniaid y ffydd, gydag awydd i ddilladu y noeth o honynt, a phorthi y newynog, gan edrych arnynt yn mhob gwlad fel tylwyth ei dŷ ei hun; ei frodyr a'i chwiorydd, ei deidiau a'i famau y galwai efe y rhai a gredent yn yr ARGLWYDD; ni flinai efe ar eu cyfeillach, ac ni ddiffygiodd wneud da iddynt trwy ei holl fywyd. Mae llawer cant o honynt heddyw yn gynes yn ngwlan ei ddefaid ef; ac mae celyrnu rhai o honynt wedi cael eu cadw yn llawn blawd, a'u hystenau heb fod yn wag o olew, y naill wedi ei fedi ar ei feusydd ef, a'r llall wedi ei wasgu allan o'i olewydd-lanoedd ef. Dyma y