Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd yr ydoedd efe yn dewis i wneud â'i foddion, yn lle eu pentyru yn nghyd, fel Avaritius, erbyn dydd dinystr a cholledigaeth. Mae Mae yn wir fod ganddo aur ac arian lawer iawn, a'i olud ydoedd fel golud Job; ond yr oll o honynt oedd rydd ac agored i wasanaeth holl deulu y ffydd, pa bryd bynag y byddai Duw Jacob yn galw am danynt. Hynod uwch y cwbl oedd efe at weinidogion yr efengyl; yr oedd yn edrych ar y rhai hyn fel cenhadon wedi eu hanfon i waered o'r nef i borthi praidd Duw yn yr anialwch. Fe anfonodd amryw o honynt i wledydd pell ar ei draul ei hun, lle yr oedd y bobl mewn tywyllwch mawr, heb glywed erioed am air y bywyd, a'r iachawdwriaeth fawr yn ngwaed yr Oen; y mae rhai o ardaloedd yr India yn ei fendithio, ac yn dyrchafu ei enw hyd y nef, am mai efe oedd yr offeryn a gynhyrfodd yr ARGLWYDD i ddanfon atynt lusern iachawdwriaeth. Yn nydd cystudd ac erlid gynt yn nhir yr Aipht, pan ydoedd pregethwyr yr efengyl â'u bywydau yn eu dwylaw, y cuddiodd efe haner cant o brophwydi yr ARGLWYDD mewn ogof gydag Obadiah, ac y porthodd efe hwynt yno â bara ac à dwfr, ac a'u cadwodd rhag Jezebel, brenines gwlad yr Aipht, yr hon oedd yn yfed gwaed y saint fel dwfr, ac yn ciniawa bob dydd ar gnawd gweision Tywysog heddwch. Fe gai eisieu fod arno ei hun cyn cai eisieu fod ar brophwydi Duw; nid oedd ei feirch fyth wrth wasanaeth gwell yn ei olwg na phan y byddent yn hol neu yn hebrwng rhai o udgyrn yr efengyl i swnio allan yr iachawdwriaeth fawr yn ngwaed yr Oen. Clywais ef yn llefaru mor oleu a'r wawr fod y creadur yn ocheneidio wrth ddyoddef porthi blys, cyflawni trachwant, a digoni nwydau drwg gwrthgiliedig blant Adda, a'i fod yn awr wedi ei gaethiwo i aflendid dynolryw, ac yn gaethwas i enyn llid, malais, cenfigen, aflendid, balchder, a phob pleser yn un chwant; ond, medd efe, y creadur sydd yn ei le pan y byddo yn porthi, yn cynal, ac yn helpu dyn at wasanaeth y nef. A phwy bynag oedd gynefin â'i dŷ ef, fe gai weled fod holl drugareddau Duw yn cael eu treulio ganddo er harddwch, ac nid er gloddest a meddwdod; dillad er harddwch, ac nid er balchder; y cwbl er help i ymestyn yn mlaen tua'r nefoedd. Cyfeillach Fidelius oedd hyfryd a nefol; cariad oedd yn teyrnasu yn ngwedd ei wyneb; pob gair o'i enau oedd yn tueddu at wneud dynion yn well, yn dduwiolach, ac yn fwy rhinweddol. Os ceryddu, fe'i gwnai yn ddirgel; os cysuro, fe'i gwnai yn gyhoedd; os lladd, lladd er da; os codi, codi yr enaid yn nes i'r nef; ond pa un bynag a'i taflu lawr neu ddyrchafu i fyny, pob peth a wnai neu a ddywedai oedd oll mewn cariad.