Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nas gwyddai oddi wrthynt; ond yma cafwyd gweled ei amynedd ef, ac yma y cafwyd prawf o'i ysbryd. Yn nydd y dirmyg ni roddodd ddant am ddant, a sen am sen; ond o'r tu arall, fe gauodd ei glustiau rhag gwrando sisial dynion segur, ac ni chredodd fod y chwedl mor ddued ag y mynegid iddo. Fe geryddodd y rhai oedd yn dwyn newyddion o dŷ i dŷ, ac a ddymunodd gael llonydd i wrando ar bethau mwy sylweddol, y rhai, medd efe, oedd i'w cael yn yr Ysgrythyrau, ac yn ei gydwybod ei hun; ac fe weddiodd yn daer dros ei erlidwyr-"O Dad, maddeu iddynt, canys nis gwyddant pa beth y maent yn ei wneuthur." Rhai oedd yn rhyfeddu os dyoddefai efe i'w ysbeilio yn llawen, ond hyn a wnaeth yn siriol er mwyn efengyl CRIST, pan nad oedd un ffordd i helaethu teyrnas Immanuel well na dyoddef talu y fees annghyfiawn; ac er ei fod yn ddigon abl i amddiffyn ei hun pan y byddid yn duo ei enw, eto, am achosion nad oedd gogoniant yr efengyl yn gorphwys arnynt, gwell oedd ganddo, pan y tarewid ef ar y rudd ddeheu, i droi y rudd aswy hefyd nag ymddial; a phan y dygid ei gochl ef, gwell ganddo, na blino ei ysbryd mewn cyfraith am werth cyn lleied, i ymadael â'i bais hefyd; canys yr oedd ei olwg ar ogoniant efengyl Duw. Rhyfeddodd Ultorius os dyoddefai dduo ei enw ac yntau yn ddieuog, ac yn ddigon abĺ i amddiffyn ei hun; ond er syndod iddo ef ac i bawb yn y gymydogaeth, fe gadwodd ei amynedd, ac a faddeuodd i'w ddrwg-ewyllysiwr; a pha gyntaf y daeth ar ei law i wneud cymwynas, fe'i bendithiodd ef, ac a wnaeth ddaioni annysgwyliadwy iddo, yr hyn a barodd i'r dyn cyndyn hwn i beidio cynyg gwneud drwg iddo mwyach. Rhedodd gair am Fidelius, os oedd neb am ddysgwyl cymwynas ar ei law ef, iddo wneud niwed iddo; ond eto mor faddeugar ydoedd am drosedd yn ei erbyn ei hun, ac er mor farw ydoedd i'w enw ei hun, eto nid oedd felly enw nac achosion ei frodyr na'r efengyl, yr hon oedd yn nes ato na'i einioes ei hun. Pan gododd pendefig ardderchog o'r wlad hono un tro yn ei erbyn ef, gan wahardd pregethiad y Gair o fewn i'w dŷ, yr hwn oedd ganddo fel teml agored i brophwydi yr ARGLWYDD, ac yn ganlynol i'w daflu allan o'r holl ardal hono, a gwneud i Fidelius dalu fees dau-ddyblyg am iddo dderbyn Gair y Ffydd o dan ei gronglwyd; y pryd hyny yr ymwrolodd efe yn yr ARGLWYDD, ac yn noethineb ei DDUW, gan osod yr achos o flaen yr uchel-swyddogion, ac a ddaliodd y peth yn wrol ac yn ddilwfr o blaid y ffydd, yn fodlon treulio a feddai yn y byd ar y fath achos ag oedd yn perthyn i iachawdwriaeth eneidiau dynion: ac yn gwybod bod cyfraith y llywodraeth o'i blaid, fe enillodd y dydd, ac a gafodd rwydd hynt i'r efengyl fyned trwy holl wlad yr