sancteiddrwydd, yn ddoethineb, ac yn brynedigaeth. Ac yr oedd efe mor glir yn yr achos hyn fel yr oedd sylwedd ei gynghorion, bywyd ei athrawiaeth, yn nghyda holl lais ei weddiau, yn cerdded ar hyd llwybrau rhad ras a chyfiawnder y Croeshoeliedig. Dyma brif bwnc ei bleser ef, dyma'r tant chwareuai fynychaf arno; ac am y prif bwnc hwn yr oedd yn canmawl cymaint ar yr hen ddiwygwyr—Luther, Calfin, Huss, a Melancthon: yr athrawiaeth hon, meddai efe, oedd tegwch mwyaf yr hen Buritaniaid: mynych y clywais ef fy hun yn gosod allan yn rhyfedd oleu, mai o eisieu deall manylrwydd cyfraith Duw, yr hon sydd yn myned i mewn at yr arenau, ac yn barnu dirgel fwriadau y galon, oedd yr achos bod Cristionogion yn gosod i fyny eu gweithredoedd eu hun yn lle cyfiawnder y groes; ac am nad oeddent wedi cael golwg ar sancteiddrwydd yr Hollalluog, yr Hwn sydd mor bur fel y mae yn gweled ynfydrwydd yn ei angylion, ac nid oes dim yn bur yn ei olwg; a mynych iawn yr oedd yn dangos pechodau, dyledswyddau, gweddiau, ymprydiau, elusenau, a hefyd holl ordinhadau hyfryd yr efengyl, tuag at gael yr addolwyr ymaith o bwyso arnynt, heb ymddiried mewn dim, nac ymffrostio mewn dim, ond yn ngwaed yr Oen. O y melusdra ddywedodd ef iddo gael lawer gwaith yn yr Ysgrythyrau yma, Dat. viii. 3: "Ac angel arall a ddaeth (yr hwn oedd CRIST yr ARGLWYDD) ac a safodd ger bron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogldarth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddiau yr holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd ger bron yr orseddfaingc." Mat. i. 21: "Gelwir ei enw Ef IESU, oblegyd efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." Jer. xxiii. 6: "A gelwir ei enw Ef, Yr ARGLWYDD ein cyfiawnder." Esay xlv. 24: "Yn yr ARGLWYDD, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth." Hyn oll oedd yn dangos ei fod ef yn uniongred yn yr athrawiaeth o rad ras yn NGHRIST.
PERCON.—Ond pa sect, pa enw o ddynion, pa ryw ddysgyblaeth, ac yn mha fath gynulleidfa yr oedd efe mewn cymundeb?
CANT.—Chwi ryfeddech ei ysbryd a'i farn ef am sectau; yr oedd hyd y nod yn ffieiddio yr enw ynddo ei hunan, bydded hen neu newydd; a llawer tro y clywais ef yn dywedyd mai balchder pregethwyr y gair, trwy eu bod am gael enw, yn fyw ac yn farw, oedd yr achos i amryw o hon— ynt dynu dynion atynt eu hunain, yn lle at ARGLWYDD mawr y cynhauaf; a bod dynion hwythau mor barod i wneud delw-addoliaeth o'u gilydd, os nid mwy parod, nag o un creadur arall pa bynag; a bod y cyffredin bobl, pa bryd bynag y clywont areithiwr da, a chael ond ychydig flas