Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn myfyrio nos a dydd. Ond am ei gymundeb eglwysig, yr oedd efe yn caru cymundeb lle yr oedd athrawiaeth y ffydd fwyaf goleu, ac ysbryd y nef yn disgyn ar y bobl fwyaf pwerus ac awdurdodol; ac am hyny efe a roddodd ei hun i eglwys un Polemistus, a gyfenwid felly am ei fod ei hunan megys yn ngwlad yr Aipht, yn rhyfela o blaid y ffydd, athrawiaeth pa un oedd o rad ras, ac ysbryd pa un oedd yn fywiog; ac nid oedd efe fyth yn eisieu yn y lle hwn nes byddai rhagluniaeth yn atal; eto fe gymunai yn awr a phryd arall pan oddi cartref gydag unrhyw gynulleidfa fyddai à ffydd yn NGHRIST, dan gredu nad oedd bendith yr ordinhad yn gorphwys cymaint ar deilyngdod y cyd—gyfranogion ag yr oedd hi ar heddwch a phresenoldeb Duw i'r enaid: pleser rhyfedd oedd gan Fidelius gymysgu ei gyfeillach â seintiau Duw o bob gradd, sect, ac enw dan y nef; am ei fod ef â'i holl egni am chwanegu cariad, a chryfhau rhwymyn tangnefedd. Nid oedd ef braidd fwy croes i ddim na'r ysbryd cul sydd gan Gristionogion at eu gilydd nas gallant feddwl cystal am neb ag am rai o'u sectau eu hunain. Mae hyn fel pla gwahanglwyf ag sydd yn glynu wrth ysbryd myrddiynau o bobl; ac yr oedd Fidelius yn ei ffieiddio ac yn ei geryddu yn mhawb ag y ffeindiai ef ei fod ynddo: a'i farn ef oedd mor gariadus, a'i ras mor dyner, fel os byddai i un syrthio i ryw fai, neu oeri yn ei ysbryd oddiwrth Dduw, nis gallai yr addfwyn ddyn ei roi ef i fyny, ond hir ymarhous oedd efe, yn dysgwyl bob dydd am ei ddychweliad, gan ei rybuddio a thaer weddio Duw drosto, ac ofni yn galed rhag iddo ef ei hun syrthio i'r unrhyw, neu i waeth magl ryw ddiwrnod. Y goreu un a welais i erioed oedd Fidelius i gadw dirgelion yr eglwys; yr un peth oedd dweyd cwnsel wrtho a dweyd wrth y mur ceryg; fe'i cadwai fel nas cai gwynt afael ynddo; am hyn llawer oedd yn dyfod ato i wneud eu hachwynion; fe gysurai rai, ac a gynghorai ereill, ac a weddiai dros bawb, ac amryw a gafodd waredigaeth o'u profedigaethau wedi achwyn wrtho ef; canys Duw a wrandawodd ei erfyniau drostynt, ac a fendithiodd ei gynghorion iddynt; ac am eu pechodau, eu profedigaethau, a'u gwendidau, fe'u celodd tra fu byw yn y byd.

PERCON.—Chwi adroddasoch lawer am ei fywyd allanol, ei athrawiaethau, ei ddysgyblaethau cartrefol, ei haelioni, ei gymwynasgarwch i ereill; ond a fuoch erioed yn ymddyddan àg ef am ei brofiadau tumewnol? am gysuron a dylanwadau Ysbryd y gras, nerthoedd y nefoedd, congcwest pechodau tumewnol, buddugoliaeth ar uffern yn rhyfela yn erbyn yr enaid; goruchafiaeth ar ofn angeu a marwolaeth; y llawenydd annrhaethadwy a gogoneddus, etifeddiaeth y saint, &c.?