Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ail fath o brofedigaethau chwerwon a gafodd efe ydoedd oddiwrth y creadur—y byd hwn a'i wrthddrychau amrywiol. Prin, ebe efe, na lithrodd fy nhroed, ac na wyrodd fy ngherddediad, wrth fod harddwch, defnyddioldeb, gwerth fawrogrwydd, a gogoniant pethau presenol yn taro gyda gwres a bywyd ar holl serchiadau gwamal fy enaid; ac â'r rhan hyny o honof ag oedd yn gnawd, yn drachwant, ac yn wrthgiliedig, oedd yn blasu, yn ymhyfrydu, ac am gael rhagor o fwynhad o'r creadur yn y dull uffernol hyny. Llais, ystwr, a murmur y ddaear a ddoi i mewn i'm clustiau gyda blas; newyddion am ddyrchafiad, parch, a gogoniant ereill enynai ynwyf flys am fwynhau yr unrhyw, nes deuai Ysbryd yr ARGLWYDD fel dyfroedd melusach i yru y blas hwnw ymaith. Mi brofais, ebe efe, fod y llygaid yma yn fy mhen wedi eu halogi yn nghwymp Adda; ac yr awr hon eu bod yn cytuno â gwrthddrychau gwag y byd, ac yn enyn tân trwy holl droell naturiaeth; trwy y ffenestri hyn y daw torfeydd o elynion i mewn—chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd, mewn cydsain anwahanol; a hwy wthiant i mewn trwy y pyrth hyn, nes dodi holl natur fel marwor tân llosgedig am fwynhau y gwrthddrychau y byddo y llygad wedi eu dewis i fod yn bleser iddo ei hun. Galluoedd y nef, ebe efe, yn unig a'm cadwodd rhag fy chwant, a grym tragywyddol fu yn amddiffynfa i mi yn nydd y frwydr; nis deallais erioed cyn fy mhrofi fod cwymp dyn wedi gwneud y fath briodas rhwng natur a'r creaduriaid; ac yn awr nid rhyfedd genyf fod pob dyn heb adnabod Tywysog y Bywyd yn nglŷn wrth y creadur mewn rhyw ddull neu gilydd; mae y myrddiynau sydd o deganau yn y byd, ac o amrywiaethau yn y creadur, yn awr wedi eu troi i fod yn gynifer o rwydau a maglau i ddal eneidiau, rhag eu dychwelyd at yr ARGLWYDD. Nid oes dim a wel llygad dan y nef nad yw yn brofedigaeth iddo; a hyn a wnaeth i mi lawer pryd ddiflasu ar y byd hwn a'i holl weniaith, a brefu am fyned i wlad nad oes un palas goreurog, dim meusydd meithion, blodeuog, na gwastadedd, yn feichiog ar gnwd toreithiog i ddenu llygad ar eu hol; dim meirch a cherbydau, a phendefigion o'r radd uchaf yn marchog ynddynt, i enyn chwant i fod yn gyfranog o'r un pethau; gwlad heb y myrddiynau o wag wrthddrychau sydd yma i'w cyfarfod bob awr, gwlad sydd yn well na bryniau yn llawn defaid, dolydd yn Ilawn gwartheg, ac yn rhagori ddeng mil o weithiau ar luosogrwydd cyfoeth Job. Mae ynwyf, ebe Fidelius, yn drydydd, dorfeydd meithion o nwydau afreolus a drwg, y rhai sydd bob dydd yn cymeryd rhyw wrthddrychau allanol i mewn iddynt, y rhai sydd yn eu crasu, ac o'r diwedd eu henyn ar