Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deulu ef unwaith neu ddwy yn mron o ben bwy gilydd. Fe gwympodd unwaith wialen Duw ar ei anifeiliaid ef, fel anifeiliaid Job; ond yr ARGLWYDD a'i daliodd â'i law. Fe gafodd gystuddiau corphorol, fel y rhoddodd y physygwr ef i fyny fel heb obaith; ond mwy na'r cwbl, y loesion a'r gwasgfeuon a gafodd efe oddiwrth eglwys DDUW; hon oedd ei deulu, ac am hon yr oedd yn gofidio ei enaid gwerthfawr o ddydd i ddydd; gwasgfeuon a gafodd oddiwrth hon a'i gwasgodd ef i lawr i'r ddaear; ond eto, er y cwbl, fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd, ac a ddaeth allan o honynt fel aur wedi ei buro trwy dân.

PERCON.—Diau yw nad oedd rhyfelwr mor fawr ddim heb gael llawer o ddyddanwch y nef o'i fewn i'w ddal i fyny dan yr holl bethau a ddywedasoch; a da fyddai genyf pe mynegech rai o'i brofiadau tu—mewnol ef: pa awelon hyfryd, pa dystiolaethau cedyrn, pa heddwch tangnefeddus, pa oleuni dysglaer, a pha gysuron melus oedd efe yn eu cael gan ei DDuw yn erbyn yr holl wrthwynebiadau oedd yn gwasgu arno, o uffern a marwolaeth?

CANT.—Wrth siarad âg ef am y pethau hyn y cefais yr odfaon mwyaf hyfryd ag a brofodd fy enaid er pan ddaethum i adnabod awelon Duw. O! y fath flas wrth fynegu i mi yr holl gyfeillgarwch nefol fu rhyngddo ef a'r ARGLWYDD! Yr wyf yn cofio iddo ranu ei brofiadau tu-mewnol i bedwar math. Yn gyntaf, heddwch cydwybod gwastadol, yr hwn, medd efe, oedd yr ARGLWYDD yn ei adael iddo gan mwyaf trwy gydol y dydd a'r nos er ys llawer o amser aeth heibio; ond rai prydiau gwelodd ei hun yn gwyro o lwybrau Duw, ac fel cosb am ei anwyliadwriaeth, yr ARGLWYDD a symudodd ei heddwch a'i dangnefedd heibio dros ychydig amser; a'r heddwch cydwybod hyn, fel y dywedodd wrthyf lawer gwaith, oedd mor felus i'w enaid a dil mêl; hwn oedd yn tynu ymaith ofn gair drwg y bobl; pob gwawd, anair, dirmyg, a diystyrwch oedd yn myned yn ddim o flaen yr heddwch tawel yma; dyma y tangnefedd ag oedd yn gyru tuchan ymaith, fel y gyr y wawr oleuni o'i blaen, ac yn gwneud y bwyd garwaf yn felus, a'r dwfr glân fel gwin llysieuog; ac yr oedd efe am gadw yr ysbryd hwn fel ei drysor goreu; a thyma yr achos yr oedd yn cymeryd cymaint o ofal wrth siarad, wrth brynu, wrth werthu, neu unrhyw fasnach ddaearol, rhag iddo gam—ddywedyd neu gam—wneud, a cholli yr heddwch anwyl hyn, yr hwn oedd fwy parod erbyn awr o glefyd na'r aur melyn.

PERCON.—Mynegwch yr ail ryw o'i brofiadau tu-mewnol.

CANT.—Dylanwadau hyfryd o'r Ysbryd nefol, y rhai oedd ef gan mwyaf yn eu cael yn ordinhadau Duw, y Gair a'r