Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y fath achosion ag fyddai i barhau tra fyddai dwfr yn rhedeg mewn afon?

CANT.—Naddo; canys fe welodd nid yn unig yr esgeulusdra o gadw y rhai hyny yn eu lle, ond hefyd ganlyniadau drwg a ddygwyddodd yn fynych oddi wrthynt; megys yn Eglwys Rhufain, lle y daeth, wrth ymarferyd o fawrion y byd i wneud hyn yn aml, bedwaredd ran o diroedd Ynys Prydain i fod yn eiddo yr offeiriaid a'r monachlogydd; nes daeth pendefigion mwyaf y deyrnas i chwenychu cael gosod eu plant i mewn yn offeiriaid yr eglwys hono; ac nes, trwy gyflawnder cyfoeth, brasder, gogoniant, ac esmwythder, i'r monachlogydd a'r offeiriaid fyned yn fwy llygredig na neb o fewn i'r cymundeb hyny. A Fidelius hefyd welodd fod y drefn hyn o osod tiroedd neu arian parhaol at weinidogaethu yn niweidiol yn ei wlad ei hun; nid yn unig am eu bod hwy yn cael eu rhoi wrth bleidiaeth ddaearol, perthynas, neu gyfeillgarwch, i rai ag oedd a lleiaf o'u heisieu, ond hefyd am fod lluaws yn dyfod i mewn i'r weinidogaeth heb gael eu galw gan DDUW, ond o ddyben cyfoethogi, a gwneud eu hunain yn ogoneddus yn y byd hwn; ac felly fod y cyfryw foddion yn halogi y cysegr. Ond Fidelius, yn ei ewyllys ddiweddaf, a roddodd i'w wraig a'i blant yr hyn oedd gariadus, a'r hyn oedd ddigon, gyda bendith yr ARGLWYDD; ond nid annghofiodd ewyllys Duw y pryd hyny; canys fe gyfranodd arian, ymborth, a dillad, i aneirif o rai tlodion, a theiau i rai uwch eu penau tra fyddent byw yn y byd. Ac y mae y gwir amddifaid heddyw trwy holl wlad yr Aipht yn ei fendithio ef. Ond am ei glefyd diweddaf, hyfryd iawn ydoedd; canys pan gyntaf y clafychodd, fe gredodd ynddo ei hun fod ei amser ef yn terfynu, ei waith yn darfod, ei ganwyll yn mron diffodd; ond mor belled oedd efe oddiwrth aflonyddu neu lwfrhau yn ei ysbryd, fel yr ymaflodd yn fwy cadarn nag erioed yn addewidion bywyd; gwir yw, nid heb ymladdfeydd celyd âg uffern, angeu, a'r bedd, yr aeth ef drosodd i dir y bywyd; ond eto fe gafodd nerth gyda Duw, ac a orchfygodd. Addewidion pur y Beibl oedd ei gleddyfau mwyaf llymion yn ngwyneb angeu; "Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed; canys yr ydwyt Ti gyda mi; dy wialen a'th ffon a'm cysurant." "Nid oes nac angeu, nac einioes, na phethau presenol na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, all ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw." "Canys yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy yr Hwn a'n carodd ni." Pan yr ydoedd ar drengu, yn lle rhyfela ei hun ag ofnau, cysuro ei wraig a'i blant oedd efe, a dangos fel y byddai Duw gyda hwynt hyd y diwedd,