Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ei fod wedi addaw bod. Ac yn fyr, yr oedd ei oriau diweddaf ef yn oriau pregethu, cystal ag oriau gweddi. O! y fath arogl hyfryd oedd yn ei holl ymadroddion y pryd hyny, ag oedd yn dodi blas ar dduwioldeb gan bawb ; ac felly yr hunodd yn yr ARGLWYDD. Ac fel y darfu i chwi ddymuno arnaf wneud Marwnad Avaritius a Phrodigalus, mi wnes hefyd gyda'r pleser mwyaf Farwnad i Fidelius; a'm hysbryd a enynodd yn fath fflam wrth ei chyfansoddi, fel methais lai na myned at fy achosion ysbrydol fy hun a'm brodyr. Hiraeth oedd arnaf am fod fel yntau; fy ngweled yr oeddwn yn fyr o'r grasau—y ffydd, y goleuni, yr ymarweddiad, a'r ffyddlondeb ag oedd yn eiddo ef. Ffarwel.

PERCON.—O, adroddwch y Farwnad.

MARWNAD FIDELIUS.

WEL, dacw fe, Fidelius, o'r diwedd yn ei le!—
Trwy 'r anial wedi dringo i mewn i deyrnas ne':
Heb ofn, ac heb flinder, heb foreu na phrydnawn,
A'r delyn aur yn canu am iachawdwriaeth lawn.

Ei nwydau oll sydd heddyw, heb derfysg yn gytun,
Yn gryno yn molianu Creawdwr nef yn ddyn;
Galluoedd maith ei enaid mewn digymysgedd hoen,
Sy 'n swnio 'r hymn dragwyddol i'r croeshoeliedig Oen.

Fe ddarfu wylo heddyw,—'d oes wylo yn y nef;
Fe sychodd Duw ei Hunan ei ddagrau gwlybion ef:
Llawenydd pur, digymysg,——mwynhad didrangc, didrai,
Yw gwledd dragwyddol hyfryd y cadwedigol rai.

Mae ef yn medi 'r awrhon yr had a ga'dd ei hau;
Nid oedd yr had ond 'chydig,—mae'r ffrwythau 'n amlhau:
Bydd coron o ogoniant yn eistedd arno ef
Tra paro Duw ei Hunan—tra paro nef y nef.

Rhif ei gyfeillion heddyw sy 'mhell uwch deall dyn,
Yn berffaith fel yr heulwen, heb frychau, bob yr un;
'R un lun; 'r un lais, 'r un ysbryd, 'r un elfen, a'r un dôn,
Yn cymysg pur ganiadau i'r croeshoeliedig Oen.

Y clod, y nerth, a'r enw, 'r anrhydedd, parch, a'r bri
Fo i'r Drindod mawr yn Undod, a'r Undod pur yn Dri;
Ei glod ehedo allan—ei glod anfeidrol Ef,
Trwy eangder annherfynol mesurau maith y nef.

Am iddo Ef greu daear, am iddo brynu dyn,
A gwisgo ei naturiaeth, a marw drosto ei Hun;
Am iddo gongcro angeu, a dadglo cloriau 'r bedd,
A dwyn ei briodasferch i mewn i'w nefol hedd.