Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT PHILO ALETHES, FY ANWYL.

COFIO a wnaethum, ar ol ein cyfarfod diweddaf, am y geiriau a ddywedasoc hyn nghylch yr angenrheidrwydd o fod dyn Duw yn berffaith yn mhob gweithred dda. Gweled yr wyf finau yn fwy eglur yr awr hon nad oes nemawr o broffeswyr wedi eu ffurfio i ddelw y Testament Newydd, ac wedi derbyn ei ysbryd a'i oleuni, ei symlrwydd a'i ddoniau, a phrofiadau tumewnol o bethau Duw, yn gystal ag ymddangosiad allanol. Oh, cyn lleied sydd yn difrifol filwrio yn erbyn balchder, hunan-dyb, gau ddybenion, nwydau tanllyd, chwantau drwg, a holl egwyddorion ereill yr hen greadur! Mae eisieu gras a fyddo yn dysgleirio yn mhob rhan, ac yn gwneud credadyn yn mhob galwad ac amgylchiad yn halen y ddaear.

Ac wrth weled hyn y daeth arnaf chwant darlunio sant yn y fath ddoniau, grasusau, profiad ac ymarweddiad ag y mae Pedr, Iago, Jude, ac Ioan yn ei osod ef allan; sant wedi ei dynu trwy holl epistolau Paul, heb gael ei ddryllio gan yr un o honynt. Ni wnes gynyg, fy ffrynd- Philo Alethes, i wisgo milwr Duw yn yr holl arfogaeth dan yr enw Fidelius, am mai lle pob credadyn yw bod yn ffyddlon i'r Hwn a'i galwodd. Ac eilwaith, gweled tynfa gyffredin dynion ar ol y byd hwn, yr awydd didor i gasglu cyfoeth, gan dlawd cystal a chyfoethog, rhieni cystal a phlant, yn nghyda'r celwydd, hoced, anudoniaeth, trais, gormes, a thrachwant a arferir i'r dyben hyn, a berodd im' osod allan fywyd a marwolaeth Avaritius; rhag ofn, trwy dewi fyth, i deulu y ffydd bleseru yn y gau lwybr, a myned o drigolion Seion o'u dinas eu hun i fyw i ganol Sodom, a chwenychu golud yn fwy iddynt eu hunain a'u plant na'r gwir gyfoeth. Gweled hefyd yr afradlondeb sydd heddyw yn Nghymru ragor na gwledydd yr India, wnaeth i mi roi darlun Prodigalus, yr hwn, trwy ei afradlondeb, a dynodd arno ei hun amryw glefydau, y rhai yn y diwedd a'u dygasant i'w fedd, ac a orlwythodd ei gydwybod âg euogrwydd a dychrynfeydd