Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/6

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hanes Bywyd a Marwolaeth
Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.

MYFI, Cantator y bardd, wedi teithio rhanau pellaf y byd, i yspïo rhyfeddodau mwyaf y greadigaeth, i ddal sylw ar gelfyddydau cywreiniaf dynion, ac yn enwedig i ymofyn am foesau, ymarferiadau, a rhinweddau plant Adda; a gweled y gwahaniaeth tymerau, dealltwriaethau, a thueddiadau y naill oddiwrth y llall, a ddaethum o'r diwedd i dir Ham, gyfenwid gwlad yr Aipht, lle bu mawrion weithedoedd Duw yn y dyddiau gynt. Mi a arosais yno amryw flynyddoedd, ac nis gwelais mewn man o'r ddaear fwy o ryfeddodau Duw, na gweithredoedd enwog dynion; ond mae fy awen yr awrhon yn fy arwain i redeg heibio iddynt oll, ac (am i mi gyfarfod â chwi, fy hen gymydog Percontator,) i fynegu rhywbeth ag a all fcd yn fwy adeiladol i chwi; a fy mrys sydd gymaint i hyn, nas caf odfa i'w osod ef allan ar gân.

PERCONTATOR.—Mae arnaf fi fwy o frys i glywed pot newyddion, ac yn enwedig am rinweddau, moesau, a bywyd meibion dynion; ond anhawdd genyf i gredu y gellwch roi i mi un newydd da o wlad mor ddrwg, ac y gellwch adrodd am un gwr rhinweddol yn mysg cenedlaeth mor elyniaethol i bobl Dduw; ond fel y gellir ar rhyw ddamwain gael mêl yn ngheudod llew, fe allai i chwi ffeindio yno rai ag oedd yn ymofyn am fynydd Seion; rhai o bosibl o'r hen Israeliaid a arosasant yn ol yn y dyddiau gynt, ac a ddihunasant yr awrhon yn nyddiau olaf y byd i deithio yr anial mawr tua'r Ganaan ddymunol. Ond ewch rhagoch, mae'm hysbryd yn gruddfan am y newydd.

CANTATOR.—Yr hyn sydd genyf, ynte, i adrodd i chwi yw bywyd a marwolaeth tri o wŷr o'r wlad hono, o wahanol ddull eu bywyd, a mwy gwahanol eu marwolaeth ; ac er eu bod yn yr un gymydogaeth, eto pell oeddynt o ganlyn yr un ffordd: nid oeddynt yn ymbleseru yn yr un pethau; nid yr un bobl oeddynt yn eu caru, nid yr un lleoedd oeddynt yn ymhyfrydu ynddynt, nid yr un pwnc oeddynt yn ei ddwyn yn mlaen, na'r un difyrwch oedd ganddynt; eto dau o honynt