Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn profi o'i win nac o'i fara; ei wisgoedd oedd yr un a'r rhai trafferthus, a'u lliw yr un a chnu y ddafad; nid oedd na chrydd na theilwr yn cael ond y rhan leiaf o'i drysorau; a ffoi yr oedd ef rhag siop y marsiandwr fel rhag ffau y llewod; a phob dull newydd ar wisgoedd oedd mor ddyeithr iddo ag i'r Negroes pellaf yn nhiroedd y Deheu; ac eto, meddaf, nid cymaint trwy y pethau hyn y chwanegodd ef ei gyfoeth, nac ychwaith trwy eithaf diwydrwydd, yr hyn yr oedd mor hynod ynddo fel nad oedd ei gyffelyb yn ngwlad yr Aipht. Ei deulu nid oedd yn cysgu ond ychydig oriau trwy gydol haf a gauaf; eu hysgwyddau oedd wedi crymu tan yr iau; oerni y gauaf a gwres yr haf oedd wedi gwneud eu crwyn yn galed fel lledr, a'u lliw fel lliw saffrwn; er mai nid cymaint, meddaf, trwy y pethau hyn yr oedd efe yn cynyddu, eto yn mlaen yr ydoedd yn myned, trwy dyru golud yn nghyd oddi yma ac oddi draw, a'i ysgubo at ei gilydd fel graian yr afon. Ei ddyfais faith a wnai elw o ddyn ac o anifail; fe droai dom yr heolydd yn arian, a'r ceryg yn aur melyn. Dysgwyl yr oedd efe gwymp y tlodion fel llew yn dysgwyl am ei ysglyfaeth, a'i lygaid a dremient ar y tlawd i'w gael ef i'w rwyd. Os tir yr amddifad a'r weddw fyddai wedi ei wystlo, fe wnai ei oreu am ei nyddu i mewn i'w we ei hun; os gallai ond gyru ei fys i mewn, sicr fyddai o yru ei law yno hefyd; a'i grafangau ef oedd fel crafangau llew—ni chollai ei afael er dim, ac nid oedd a ddygai'r ysglyfaeth o'i law ef. Trwy weniaith celwydd, geiriau teg, ac ymadrodd dengar yr ysbeiliodd ef amryw o'u bywioliaethau; ei anifeiliaid ef a werthid i'r gweiniaid at eu gwerth dauddyblyg, a'r tlawd oedd yn ofni gweled dydd y taliad; yr iau oedd yn rhy drwm, a'r baich yn methu ymadael â'r ysgwydd; ac yn lle eu tynu o'u cyfyngdra, fe a'u prynai hwynt yn eiddo iddo ei hun, trwy dalu y ddyled i bawb o'u gofynwyr, fel y cai ef y tlawd hwnw, ei wraig, a'i blant yn gaeth-weision iddo ei hun; a'i dŷ a lanwyd o'r fath drueiniaid a'r rhai hyn, fel ychain gwaith, yn wastad tan yr iau, neu fel yr asen yn feunyddiol yn dwyn ei phwn, heb neb i achwyn wrtho, na neb i'w cysuro yn eu gofid.

PERCON.— O orthrymwr di-gywilydd! A oedd un gydwybod yn fyw ynddo?

CANT.—Na soniwch am gydwybod, nis clywodd erioed mo'i llais nes ydoedd ar wely angeu; onide gwrandewch ar un yn rhagor o'i ddichellion awyddus ef fel y dygodd ef, un tro, ŵr gonest gwirion, ag oedd o'r blaen yn byw yn gynes, i fegian ei fara. Enw y gŵr oedd Honestus, ac yr oedd efe yn berchen defaid, gwartheg, gweision, a morwynion tŷ; ond nid aml oedd mewn arian ac aur, yr hyn fu achos i'w