Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n gywilyddus clywed carpiau
Yn lladd ac yn mwmian ar iaith eu mamau,
Heb fedru na Chymraeg, na Saes’neg chwaith;
Onid ydyw'n waith annethau.

Ac os bydd rhyw hogenig wedi bod yn gweini,
Yn Nghaer neu'r Amwythig, dyna'r cwbl yn methu,
'Cheir gair o Gymraeg, ac os d’wed hi beth,
Oh ! 'r lediaeth fydd ar my Lady.

Chwedl mawr yw bod mis yn Lloegr,
Fe ddysg merch ifangc lawer o fedrusder,
Siarad modest a phletio'i min,
'Run fath a thwll tin y Tanner.

Yn Nghymru mae llawer coegen
A roe goron i blayers Llundain,
Ac ni all i Gymro fforddio o'i phwrs,
Un geiniog, heb gwrs o gynen.

Ac y mae llawer crach-gynffongi
Na hidiai fo gewneu er taflu gini
Am le i hwrio neu gamblio ar gais
Ynghwmni rhyw Sais lled osi.

A rhyfedd fel y dywed cwmni o Gymru,
O the English song is verry pretty!
Ac yn agor eu cegau a'u clemau clws,
A'r gorws yn gwehyru.

Dyma fel y byddant yn canu ac yn bloeddio ,
Heb air o gysondeb, ynberwi ac yn soundio ;
A phe baid am ganu Cymraeg yn sôn
Ni ddeallai'r gwyr mwynion mono.

Mae hyn yn helynt aflan
Fynd o'r hen Gymraeg mor egwan;
Ni cheiff hi mo'i pherchimewn bryn na phant,
Heno gan ei phlant ei hunan.

ENTER TRAETHYDD.

What is this gibberish, foolish fellow?
Tom. Dam i sîl Satan, dyma Sais eto,
Graith. Do not talk nonsense.
Tom. Taw, dacw Nancy,
Siarad Gymraeg, neu ddos i'th grogi,