Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Does yma fawr o Saesoneg glân,
Ond ychydig gan Sian a Chadi.

Traeth. Paham 'rwyt yn lladd ar Saes'neg mor greulon

Tom. Lladd yr wyf fi ar Gymry beilchion
Sy'n ceisio gwneuthur pob dyfeis,
I fod mor bressise, â'r Saeson.

Onid ellir dysgu Saes'neg ar gorau
Ac heb fyn'd yn feilchion, goegion gegau,
I wadu na fedront ddim yn faith,
Mewn moment, o Iaith eu mamau.

Traeth. Mae 'marferiad, oni chlywsoch, yn llawer achlysur?

Tom. Wel ydyw ,miwn eto ,lle bo duedd mewn natur,
Ond am fod yn dduw, 'nol gair yr hen walch,
A chodi , mae balch bechadur.

Traeth. 'Does fai ar neb am godi'n raddol,
Fel bo'u sefyllfa'n gyfatebol.

Tom. Yn mhob sefyllfa fe ddylai ddyn
Adnabod ei hun yn wahanol.

Traeth. Doethineb trwy degwch ymhob galwedigaeth
Sy'n tynu'n gysonaidd rai tan ei gwasanaeth;
Lleferydd a gwyneb sy'n dangos gwhaniaeth;
Mae dynion yn dirwyn at ddull eu gwladwriaeth

Tom. Wel, felly, nid celwydd caled
Yw barn dostaf y Methodistiaid;
Mae gwladwyr y Cythraul yn hawdd eu cael,
Wrth eu bywyd gwael, i'w gweled.

Mae'r meddwon a'r lladron tan un llywodraeth
Y tyngwyr, a'r rhegwyr, a phob rhywogaeth,
Dilynwyr pechod yn gyttun,
Yn deulu o'r un gwaedoliaeth.

Traeth. Mae pob rhyw fasweddwyr mewn pechod yn suddo.

Tom. Wel beth ydyw maswedd? rhag ofn mod i'n misio
Os oes genyt reswm, dod yn ei le,
Er undyn, mi wnaf finau wrando,

Traeth.Mae'r enw gair maswedd fel hyn i'w gymwyo
Am bob pethau allanol eill natur eu llunio,
Gwagedd o wagedd, a maswedd, mewn mesur,
Heb waith y dyn newydd, yw pobpeth dan awyr.