Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Maswedd cnawd esmwyth sy'n adwyth niweidiol
Yn sïo rhai'n Sion ar foddion crefyddol,
Canu a gweddio, a gweithio pregethau;
Fe gyfrif Duw'n faswedd holl ffrwyth 'eu gwefusau

Tom. Os oes maswedd mewn pregethau,
Ni waeth nyni na hwythau;
Os gallwn gario cydwybod glir,
I draethu'r gwir, bob geiriau.

O ran mae'r gair gwir, drwy gariad,
Yn haeddu beunydd bob derbyniad,
Mewn amser ac allan o amser llawn,
Mae'n ddidwyll ac iawn ei dd'wediad.

Traeth. Ychydig o gariad sydd mewn geiriau
Adraetho'r ynfydion ar flaenau tafodau;
Muriau sychion yw'r rhai hyny
Heb ffydd, fel morter, i'w cyd-tymheru.

Mae'r rhai'n yn debyg o ran en dyben,
I fynediad y wenfol a'r gornchwiglen,
Yn troi o gwmpas, er hyny eu cartre
Sydd un yn y gors a'r llall yn y simne.

Mae hbithau'r 'sgyfarnog enwog union
Yn cnoi ei chil o egni ei chalon,
Yr un droed â chi yw hi, er hyny,
Felly mae buchedd rhai redant i bechu.

Mae eraill o ryw'n fforchogi'r ewin,
Hyd ffyrdd y duwolion y byddant hwy'n dilyn,
Heb ddim cnoi cil yn eu genau na'u calon,
I ddal neu fyfyrio ar dduwiol arferion.

Tom. Wel, sôn am greaduriaid rwyt ti' rwan,
A gwahanol gyflwr, glân ac aflan,
Oni ddaeth llenlliain o'r nef i'r llawr,
Mewn gafael ddirfawr gyfan?

Ac 'roedd pob creaduriaid yn hon yma,
A glân oedd y cyfan, cofia;
Ac yr oedd cyhoeddus weddus wâ'dd,
Heb attal, i ladd a bwyta.

Traeth. Y llenlliain hon yw'r Efengyl a'i rhyddyd,
Ond rhaid yw lladd cyn bwyta er bywyd;
'Does cig na physgod na llafur yn fuddiol,
Heb eu lladd a'u tori o'u cyflwr naturiol;