Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dyma'r porth cyfyng mae gafael y bywyd
Sef marweiddio gweithredoedd y cnawd trwy yr ysbryd,
A dysgu croes Crist, egwyddor crefydd
Yn ysgol rad y creadur newydd.

Tom. Gan dy fod mor ddoeth, gad i mi glywed
Pa fodd 'roedd plant Israel yn ysbeilio'r Aiphtiaid
Yn benthyca tlysau ac yn dwyn ar duth,
Heb dalu byth mo'u dyled.

Traeth. Yr aur a'r tlysau a'r gwisgoedd gwychion
Sydd deip o dalentau a doniau dynion,
Rhai ddylyd fenthyca oddiar naturiaeth,
I ogoneddu'r hwn sy berffaith.

Tom. Wel, os tâl benthyca felly,
Gallwn ninau ddawnsio a chanu;
Pe medre'm ni ganmol yr hwn sy'n llawn
Yn rhoi rhinwedd a dawn i hyny.

Traeth. Pob dysg a dawn, pob llawn gallineb,
Mae gogoniant y Creawdwr trwyddo'n ateb,
Ond natur dyn, trwy falchder Satan,
Sydd am ogoniant iddo'i hunan.

Tom. Wel ni waeth i ni dewi'n ebrwydd,
Na phe baem ni'n ymddiddan ddeuddydd,
Profi pob peth, a dal yr hyn sy dda,
Ydyw'r ffordd benaf beunydd.

MYNEGEIR Y CHWAREU.

Wel, bellach crybwyllaf mi dystiaf am destyn,
O'r dull yn deg hylwydd mae'r trefniad yn canlyn,
Am Dri Chryfion Byd, ddwys olud, mewn sylw,—
Sef Tlodi a Chariad ac Angeu tra chwerw.

A Chariad yw'r hynaf, o chredir yr hanes,
O ran, pan ga'dd gwryw gu fenyw yn ei fynwes,
Ac wedi iddo ei gwympo a'i rwydo ef o'i ry'dyd,
'Roedd Cariad yn ddiau'n cywiro'r addewid.

Ond melldith y pechod drwy hynod drueni,
A'r noethni dyledus, wnaeth nyth i Dlodi,
Na chatfai ddyn fara,heb chwysu'n llafurus,
Ac Angau yn y diwedd, ac ing yn ei dywys.

Ond cryf iawn yw cledi Tylodi a dyledion,
Yn boenus iawn beunydd, oer ddeunydd ar ddynion,