Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn gwneyd i rai feddwl am waith a chelfyddyd,
Fel mae gan bawb awydd i gynal eu bywyd.

Ac eirias o gariad wir fwriad arferol
Yw elfen cenhedlaeth, naturiaeth daearol,
A chariad gyflawndeg y deg waredigaeth
Sy'n gryfach nac angau'n rheolau marwolaeth.

Ac yma'n ganlynol, allanol ddull hynod,
Drwy wraig afrywiogaidd, faen daeraidd,finderus,
Cewch beth o gwrs bywyd y byd a'i gybydd-dod,
A chanddi ddau feibion, yn ddigon eiddigus.

Ac un mab oedd gartref fel hithau yn ei heithaf,
Yn gybydd rhy arw, a hwnw oedd yr hynaf,
A'r ail a gae'r ysgol, drwy rwysg a chymeriad,
A'r peth a wneiff arian, fe'i rhoed yn Offeiriad.

'Nol hyn, wedi'r cwbl, y Fam a'i Mab cybydd
A gwympodd yn galed allan a'u gilydd,
Ag at yr Offeiriad hi âi i fyw yn gorphorol,
Bu yno nes marw mewn enw mwyn unol.

Hi drefnodd ei h'wyllys, drwy hollawl gydsyniad,
Yn anwyl ei pherwyl, i'r Mab oedd Offeiriad,
A'r ddau am yr eiddo, mewn cyfraith ymroddodd,
A'r cybydd gofidus, ŵr gwallus, a gollodd.

Fe syrthiodd, wrth erlid, i lid a thylodi,
Ac ar ei ddiweddiad fe ga'id ei argyhoeddi
Mae'n troi'n edifeirol o'i farwol arferion,

'R hyn fyddai'n ddaionus i bob gradd o ddynion.

Ac felly'r cwmpeini mae penaf cychwyniad
Yr act wael sydd genym os rhowch chwi fwyn genad,
Gosodwn hi o'ch blaenau ein gorau drwy gariad,
Na ddigiwcb, cyd ddygwch lle ffaeliu'n hymddygiad

[Exit

ENTER SIR TOM TELL TRUTH.

Wel gwir dd'wedodd Satan, mae'n hysbys eto
Bydd dynion fel duwiau, er cael eu ban'dwyo,
Mae ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg
Yn gwneud cynnwr amlwg heno.

Mae swn am gyfoeth a mawrhydi,
A swn diawledig ydyw son am d'lodi,