Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Heb fawr yn synied a'r ferw saeth,
Y bariaeth sy'n ei beri.

Heblaw'r hen felldith wreiddiol
Sy'n peri t'lodi yn wladol,
Balchder gwyr mawr yn gwasgu'r gwan
Mae hyn yn rhan erwinol.

Balchder sy'n gyru bon ddigon segurllyd
Tua Ffraingc neu Lloegr, i rythu eu llyg'id
I ddysgu ffasiwnau a gwario'n fall,
Ddau mwy mewn gwall nag a ellid.

Mae ganddynt yn Llundain lawer llawendy,
I droi'r gath yn'r haul i fon'ddigion Cymru,
Play-houses a Lotteries, flawtus ffull,
Ac amryw ddull i ddallu.

Ac yn y play y cânt hwy eu pluo,
Rhwng hŵrs a liquors y bydd eu haur yn slacio,
Rhaid canlyn holl egni cwmpeini pur,
'Ran grandrwydd gwyr yw gwario.

A dyna'r nod, fy 'neidiau,
Mae gwyr mawr stowt yn gwario statiau,
Wrth ddilyn balchder, a'u harfer fel hyn
Peth costus ydyw canlyn castiau.

Ond balchder cyn y collo,
Ei fywoliaeth, (wrth drafaelio)
Nag y cymro fe ronyn llai na'i raid,
Fe geiff y gweiniaid gwyno.

Hel sgamers o Lundain, a llawer o helyntoedd,
A Landsurveyors i reviwio'r tiroedd,
A'u mesur hwy drostynt, gwlyb a sych,
Y caeau'n grych, a'r gyrychoedd.

A myn'd a map i'r gwr bonheddig,
O bob cyrau, y coed a'r cerig,
Pob cae a ffrith, pob acr a phren,
A chodi cyn pen ycydig.

Cyhoeddi a galw 'r tenantiaid i'r goleu,
A d'weydyd mewn ecrwch, fod hyn a hyn o acrau,
Ac y myn y meistr tir gael codi ar y rhent,
Mae hyn yn gonsent i ddechreu.

A hwythau tenantiaid y bryniau a'r nentydd.
Yn myn'd yn anhywaeth at y ffasiwn newydd,