Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac byth yn fy magl rwy'n dal rhai a'm dwylo,
Mewn gofid ac angen oni fyddant hwy'n gwingo.
Yaffrostied gwyr mawrion yn en parch a'u cymeriad,
'Roeddynt hwythau'n dlodion gweinion pan 'i ganed,
Oni pheidiant ag ymwychu, a gyru a gwario,
Fel na allont hwy ateb, ânt felly eto.

Tom. Oni ddarfu rai brynu tiroedd, dan godi eu torau
Erbyn agor llygaid, ni thelynt mo'r llogau,
Achos enw mawr a bychan fudd,
Mae'r Aerod bob dydd yn dioddau.

Nhwy aethant 'run fywoliaeth a Gutto felyn,
Ychydig laeth a hyny'n enwyn,
Oni cheir gwaith corddi, fel y d'wedodd fy nain,
Hi a fydd yn o fain am fenyn.

Gwidd. Ond balchder yn ymgyraedd gormod,
A melldith drygioni pechod,
A wneiff, yn ddwys, ymben oes neu ddwy,
Feddiannau mwy'n furddynod.

Tom. Mae aml blas mawr yn Nghymru heno,
Mae'n chwith i lawer un fynd heibio,
Lle byddai fon'ddigion hardd en drych,
A gwein'dogion gwych yn trigo.

Gwidd. Hwy lanwent foliau gormeswyr ffeilsion,
Yn lle rhoi elusen i bobl dlodion;
'Does ryfedd bod melldith ar dir a thai,
I ddigwydd i rai bon'ddigion.

Tom. Wel mae nhw i'w canmol draw ac yma,
Am roi cynhaliaeth i'w cŵn hela,
Maent yn llawnach o flawd, mi glywais son,
Yn eu boliau na thylodion y Bala.

Gwidd. Ond anllywodraeth, mewn dull anfeidrol,
Sy'n rhoi i mi le i feistroli pobol,
Balchder ac oferedd sy'n cyfeirio,
Yn tynu 'neiliaid i mi tan fy nwylo.

Rhyfedd heno i'w gofio ar gyfer,
Mor ddau wynebog ydyw balchder,
Gyru rhai i weithio, gyra rhai'n lladron,
Pob castiau diawledig rhag mynd yn dlodion.