Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fy ofn i sy'n peri i rai godi'r boreu,
Rhai i'w gor'chwylion, rhai i'w siwrneian,
A'r plant bach fydd yn llefain rhag llafur fy ngafel,
A'r hen bobl yn rhedeg bron colli'r hoedel.

Myfi ydyw'r hynotaf mewn fair a marchnad,
Fe edrych pawb arna'i â chornel eu llygad ;
Rhag fy ofn i y bydd y rhai cryfaf.
Yn cael bargeinion ar ddwylo'r rhai gwanaf.

Oh! Meistres erwinol wyf fi ar weiniaid;
Mi dorais hyd y Nentydd yma, lawer o denantiaid,
Rhai fyddai'n meistroli mewn balchder ac oferedd,
Ond myfi fydd eu meistres nhwy yn y diwedd.

Mi a welais yma Ffarmwyr yn byw'n drefaus
Yn dilyn ceiliogod a cheffylau races;
Ond pan ddown i atynt yn fawdurdod,
Fe fyddai melys gael canlyn mulod.

Ac mi welais rai yn rhwysg eu cywaeth,
Yn wyr synwyrolaf trwy'r gym'dogaeth.
Ond pan ddown i unwaith yn feistres arnyn'
Ni fedde nhw synwyr un briwsionyn.

Ac mi weiais wyr gorchestol arw,
Yn perchen tiroedd yn fawr iawn eu twrw,
Yn mynd, rhai ar y plwyf, a'r lleill i'r Fact'ry,
A'r lleill i'r Jêl i isel oesi.

A'r merched mwyn gymen a'r llygaid main gwamal
Sydd heddyw mor sosi, yn caru ac yn sisial,
Pan ddeloch i'r bwth bach yn gwla'ch gwely,
Chwi fyddwch yn llafar na thalwch mo'ch llyfu.

Yrwan mewn sadrwydd mae i chwi gonsidro,
Os myfi fydd y feistres, mi wuafi chwi fwstro,
Heb ddim byclau plated na gywn brith plotiog,
Na ffedogau gwynion, mi ddaliaf fi geiniog,

Y glôg sidan ddu a'r wyer capian,
Ar balloon bonnets a'r hetiau ribanau,
A'r handkerchiefs mawr a'r ruffles dwbwl,
O myfi yn y funud a'ch gwisgaf chwi'n fanwl.

Ac yn lle tea i'ch breakwest mi fyddaf fi'n eich procio
I gym'ryd pottes gwyn bach, neu laeth wedi dwymno,