Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Brywes dwfr a halen nen gawl erfin,
Bydd weithiau'n anodd gael pen wnionyn

Tom. Wel wfft i'ch calon gyda'ch cealed Onid y'ch yn ddi gwilydd roi ffare mor galed.

Gwidd. Os daw ataf fi na mawr na mân,
Yn waelaidd hwy gan weled.

Tom. Mae'n dost i chwi eu bwlio'n hwy'n weigion eu boliau.

Gwidd, Fe allai ca'u hwy fara, os codant yn forau;
Ond ni wiw i un o honynt edrych yn ddig—
Ni cha'n hwy lawr gig i'w cegau.

Hwy ga'n' frwchan i'w einio, a llith, a chawl
Uwd a llymru, a bytatws a llaeth enwyn, (cenin
A chaws gan g'leted a lledr clytio,
Wiw son am ymenyn na disgwyl mono.

Tom. Ateliwch eich tafod;—'does and Sir Aberteifi,
A pheth o Sir Gaer, fel yna'n rhagori.

Gwidd. Mae bywioliaeth galed lawer tro,
Trwy wledydd lle bo tlodi.

Tom. Wel gan i chwi fwgwth cymaint afwydd,
Mae rhyw alwedigaeth i bawb yn digwydd;
Rhaid i bawb geisio offer i ymladd am fwyd,
A'r crydd gael mynawyd newydd.

Gwidd. Wel un o chwedlau gwir y Saeson
Necesity is the mother of Invention,
Ni wnae neb fawr, mi wrantaf fi,
Ond rhag tylodi a dyledion.

Myfi ydyw'r Fadam, 'rwyf fel gwialen fedw,.
Mi chwipiaf ac a giciaf rai yma ac acw,
Mi wnaf i bawb gychwyn tra fo hoedl ac iechyd,
Neu os trinia'n hwy ddiogi, hwy dro'n i ddygyd,

Tom. Chwi yrasoch rai i'w crogi,
Rhwng balchder a gofidi
Ac rhagoch chwi mewn cyni caeth
Rhyfeddod aeth i foddi.

A llawer lodes ledrydd
Aeth í hwrio o'ch herwydd,
Rhai i ladratta, gwaetha gwys,
A'r lleill yn ca'lyn celwydd.

Gwidd. Onid yw merched mor aflawen.