Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn eu hynod andwyo 'u hunain,
Trwy ddilyn gormod chwant y cnawd,
Yn wynebu'n dylawd anibenn.

A gwagedd gwaeledd, 'rydwy'n gweled,
Y cau a'r gwasgu mae gwisgiad merched,
Tra fo'r llanerch wantan heb ei chau,
Rhwag eu garrau nhw yn agored.

Tom. Wel dyna ddarluniad unig
O'r ffrwythau gwaharddeddig,
A'r gorchymyn sydd yn gofyn bod
Ufudd-dod nod enwedig.

O ran y peth sydd wan a meddal,
Mae'n fwy gogoniant iddo gael ei gynal;
Nid rhaid i'r iach wrth feddyg drud,
Tra tyfo mewn bywyd diofal.

Nid rhaid diolch i'r lladron lledrydd,
Os ffaelia'n hwy gael gan gloiau neu welydd,
Mwy nag rhaid diolch mewn llawer lle,
I faeni meline am lonydd.

Ond hawdd cadw cestyll neu'r cistiau fo heb dare
'Does orchest oruchel ond i'r bwn a ymdrecho,
Ac ymladdo'n erbyn dyn a Diawl
Yn ollawl ac a yaillo

Gwidd, Nid pobl ymdrechgar bagar eu hagwedd,
Ond rhai pur galon weiniad sydd gani yn fy ngwinedd
Rhai llyrfon ymddygiad,a llawer o ddogi,
Sy fynycha'n cael eu rhwydo a'i dyludo i dylodi.
Mae mhobl i, druain, bob rhyw droiau,
Yn hawdd eu hadnabod wrth wedd eu hwynebau
Sef y dua ei grys, a'r gwyna ei esgid,
A'r siwrwd ei gefen fydd yn siarad mewn gofid.

Mr.Bwccwl o bob pâr, a Mr.Cysgu'n hir y boreu,
A Mr. Clox tinau agored. a Mr. Clos tan ei arau,
A Mr Di fforcest, a Mr. Gwag ei ffircen,
A Mr. Lled lonydd, a Mr. Llwyd wlanen.

A gwragedd lled hollawl,sef Madam Gywn tyllog
A Madam Bess Geglom, a Sian Bais Gaglog,
A Madam Oer lewyrch, a Madami War leuog,
A Madam Geunor ddrewllyd, a Madam Gwen ddrylliog.