Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tom. Gwared ni rhagoch gyda'ch rhigwm,
Onid ydych chwi rywsut, yn feistres ddireswm;
Gwae yn y byd fo danoch chwi'n byw,
'Ran caled ydyw 'ch cwlwm.

Gwidd. 'Does un frenbines, hanes hynod,
Na brenin mewn dewrder,gymaint ei awdurdod
Rwy'n fwy dychrynadwy, 'n gwneud i rai ochneidio
Nag un rhyfelwr a fu'rioed yn trafaelio.

Rwy'n gryfach na'r cornwyd,a'r llif mawr yn Carno
Rwy'n gryfach na'r cestyll fu amryw yn eu costio
Rwi'n gryfach na'r tân,na'r crogbren neu'r tenyn,
Ran fe eir trwy bob niwed rhag tlodi a newyn.

Y cyfreithwyr a frathant, a gafaelant yn filen,
Ond ni fwy gen i am danyat nag mewn coes rhedynen,
Er cyhyd eu gwinedd, a chymaint eu gweniaeth,
Ni wnant ar dlodi ond ychydig deiladaeth.

Tom. Mae gwyr cedyrn ag aur i'w codau
Yn feistradoedd arnoch chwithau.

Gwidd. Yn feistradoedd arna i 'does fawr i gydstrodur,,
Pe gwelid y byd mewn golau.
Mae llawer o feistradoedd, pe rhoid llaw tan en
A'm ffwndwr i i'w dilyn, pan ffeindir eu dolur;
Ond harddwch en dillad yw eu heddwch nhw 'i dwyllo,
Fel 'nifeiliaid i'r cigydd,wrth feirw maent yn cogio

Tom. Mae rhai, drwy gamwedd, draw ag yma
Yn mya'd yn diodion er eu gwaetha;—
Anlwc yn y byd, neu gam gan wyr mawr,
Yn eu gwthio nhw i lawr i'w heitha.

Ac mae llawer o stewardiaid mor bell eu stordyn
Yn fil gwaeth na meistr, yn ymledu ac ymestyn,
Y nhw ydyw'r duwiau raid addoli dan ser,
Os myner byw'n dyner danyn'.

Mae llawer o boblach weiniaid
Yn ofni cael eu stwrdio gan ystiwardiaid,
Yn fwy nag yr ofnant mewn odid râdd,
Hwnw eill ladd eu heuaid.

Gwidd. Mae achos i ofni gwyr mawr a'u stewardiaid,
Ran prin ceiff rhai amser i feddwl am enad,