Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhwng cyfraith stwardiaid, a balchder gwyr mawrion,
Mae tenant i'w ganffod fel rhwng diawl a'i gynffon,


Tom. Nid oes odid wr o gyfraith heno,
Na bo fe'n Ystiwart, i ddal a chystwyo,
Ac ambell gnâf arall a wneiff y tro,
Neu shiopwr a fedro sharpio.


Mae stiwardiaid y miners yn onest mewn manau
Yn pesgi'n flonegog wrth atal cyflogau,
Nid y rhai yslafio fwya'n unfryd
Sy'n cyrraedd y byd goreu.


Gwidd. Gad lonydd i'r stiwardiaid a'r cyfreithwyr hefyd,
Y nhw sy'n rhoi 'neiliaid yn fy nwylo'i bob enyd;
Oni bae rai'n pinsio, ac yn robio'n rheibus,
Ni fyddai'r wlad fyth mor anghenus.


Tom. Mai balchder serth, echirysnerth, a chroesni
Sy'n tynu dial, ni waeth ini dewi,
Ni byddai'r cyfreithwyr ddim ymhob ffrae,
A'u gwinedd oni bae ddrygioni.


Mae'r Diawl, fel melinydd, yn troi gelyniaeth
Olwyn gocos chwant yn nhroell naturiaeth,
Ni cheir fyth heddwch nag esmwythad.
Heb ryw gyfnewidiad odiaeth.


Gwidd. Rwy' i'n cyfnewid ae yn ystwytho,
Gyru'r baich heb ei waethaf, a'r diog i weithio,
Gyru'r afradloniaid i feddwl am gartre',
A gwneud i lawer aflerwr i deimlo'u cyflyrau.


Tom. Tro ben ar dy chwedlau, a thaw a choulo,
Onid e hi ä'n gofrestr hwy na ffair Fristo.
Nid ydyw rhuo'r un peth, fel hyn,
Bleser i undyn wrando.


Gwidd. Dyma fel y mae, ni waeth imi dewi,
Mae llawer yn flin o gwmni tlodi;
Ond rhaid i'rai heb waetha yn ea gên,
Yn aml roi pawen imi.


[Exit.


Tom. Gwir a ddywed Gaenor o Dafarn y gunog,
Hir ac anghynes ydyw chwedl yr anghenog;
Ond i ddangos mawrhydi tlodi yn lân,
Mae gan inau gân, yn enwog.