Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CANU AR Y DDIMEU GOCH

POB dyn a dynes gynes gall,
Mae'n ddiwall mewn addewid,

Fod rhaid i bawb sy'n chwennych byw
Feddwl am ryw gelfyddyd;
Rhai i'r môr , a rhai i'r mynydd,
Rhai i'r glynnau, rhai i'r glennydd,
Rhag tylodi i ymboeni beunydd;
Rhai yn hwsmyn drwy bob d’rysni,
Rhai 'mhob swyddau rhag ofn soddi,
Helynt lidiog rhag tylodi.

Y gồf a'r saer ar gyfer sydd,
A thylwyth Crydd a Thailiwr,
Y Tanner crych, a'r tynwr croen,
A'r Gwydd mewn poen a'r Pannwr.
A'r Tinceriaid hwyntau'n curo,
A'r melinydd yn mileinio
Ac yn tolli cymaint allo,
Brickle’rs, Masiwn, yn dra misi,
Nailers, Tilers, yn cyd holi,
Pob teiladaeth rhag tylodi.

A gwyr y Gyfraith croes. eu bryd.
Hoff rydyd, a'r 'Ffeiriadau,
Degymwyr, trethwyr, pwythwyr pur,
A siapus wyr y siopau,
Clochyddion, Doctors, yn cyd-actio,
Ac yntau'r Cigydd a'r gwynt cogio,
Weithiau'n lladd, ac weithiau'n blingo;
Llinwr, Turner, yn llawn taerni,
Glwfer, Sadler, sodlwr gwisgi,
Pawb a lediant rhag ty lodi.

Chwarelwr, Tyrchwr, calchwr certh,
A'r cauwr perth, a'r porthwr,
Exciseman, Supervisor pric,
Wyr byrbwyll dric, a'r Barbwr,
Brazier, Cutler, Pedler, Pwdlwr,
Colier, Miner, Painter, Printiwr,
Lliwydd, Cribydd, Pibydd, Pobwr,
Cario potiau, cweirio pwti,
A physgotta, a gwneyd basgedi,
Pob teiladaeth rhag tylodi.