Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cariwr coed a'r Llifiwr cul,
A'r gwladaidd fal ysglodion,
Baledwrs, Racsiwrs, Clocsiwrs clau,
A'r Jaggers gloiau glewion;
Pilio rhisgl, a thori a rhasglo,
Cordio a llosgi, cario a llusgo,
Forge—men, Founders, pawb ffwndro,
Llongwyr, Sawdwyr, sydyn, gwisgi,
A swyddogion sydd i'w rhegi,
Rhwygant wledydd rhag tylodi.

Tafarawr, Bragwr, trychwr trwm,
A'r Nodwr llwm anwydog,
Sebonwr, Canwyllwr, gweithiwr gwer,
Y Swîp, a Chobler chwiblog,
Hetiwr, Clociwr, Garddwr gwirdda,
Y towr a'r Cowper taer eu copa,
A'r Turnpeiciwr a'r trwyn picca,
Troliau gannoedd a gwageni,
A gwyr yr hoitiau a'u gwarau ati,
Yn gyru'n llidiog rhag tylodi.

Rhai yn cerdded gwlad a thre',
A rhyw goeg wyrthiau i'w gwerthu;
Rhai yn crio yn nrysau tai,
Mewn cwynion,—a rhai'n canu;
Telyniwr, Ffidler, Joci, Porthmon,
Baili, Cwnstabl, Jailer, Hangmon,
Rhai'n dwyllodrus, a rhai 'n lladron,
Felly beunydd mae rhai'n ymboeni
Mewn rhyw alwad yn rheeli,
Rhwyg taledig, rhag tylodi.

A swm y cwbl drwbl drud,
O boenau'r bywyd beunydd,
Yw'n dysga ni drwy dasg a wnaeth
Gair odiaeth y Creawdydd;
Beth ond tylodi a phob hynt lidiog,
Sy'n galw dynion er gwel'd enwog
Allu llaw yr Hollalluog;
Am bob doethineb a berthynant.
Y'mhob celfyddyd, hap coelfeddiant,
DUW a ddylai gael addoliant.