Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENTER RINALLT ARIANOG, Y CYBYDD.

Wel rhyfedd y canu bydd pob cacynen,
Ac yn pwnio rhyw hanes wrth eu pen eu hunain!

Tom. Arefwch beth, yr oeddwn i'n bur,
Yn canu'r gwir yn gywrain.

Rin. Nid anaml y gwelir yn unman,
Na fo bawb yn wahanol yn ei ganmol ei hunan.

Tom. Wel, hoff genych chwithan ganmol eich cod,
A chyraedd clod i'ch arian.

Rinallt. Nid oes dim drwy'r byd presenol
Cymmaint yn haeddu eu canmol;
Ond am yr arian wiwlan wawr,
Mae bychain a mawr yn ymorol.

Ond am yr arian mae'r dymer erwin,
Mewn Esgobion a 'Ffeiriaid, a phobl gyffredin;
D'oes dim yn gwneud lles, mi gymeraf fy llw,
Mwy breiniol na delw'r brenin.

Tom. Wel, mi wn fy hunan, heb wahanu
Mai delw'r brenin a dâl i brynu;
Ond mae arian drwg mewn gwlad, a thre',
Gwedi i ryw bethe eu bathu.

Rinallt. Mae'n dda genyf arian yn fy nghalon,
Pe medran ine'u bwrw mi leiciwn yn burion;
Mi wnawn yn rhyfedd yn fy rhan,
O guineas ac arian gwynion.

Tom. Nid oes yn gyfreithlon wedi eu trefnu
Ond arian y brenin i werthu ac i brynu;
D'yw'r lleill ond rhagrith, yn lle gwir hawl,
'Ddyfeisiadd y Diawl a'i deulu.

Pob hudolaeth y mae pawb i'w dilyn
I ddianrhydeddu enw'r brenin,
Sydd megis rhith o grefydd bás
Heb roddiad gras yn wreiddyn.

Mae arian brenin Cymru a Lloegr
Yn deip o'r fendith sy'n talu cyfiawnder;
Nid yw heb raslon gyfreithlon fryd,
Ein dyfais i gyd ond ofer.

Rhaid i'r Cristion cywir wastad
Ddal cywrain ddelw y cariad,
'Run modd ac y deil rhwng dŷn a sýn,
Arian y brenin bryniad.