Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rinallt. Rhyfedd y cymeraist mewn cymbariaeth,
Yr arian anwyl yn dext pregeth;
Ond mi wn nad oes mewn gwlad na thre'
Gysonach llyfrau gwasanaeth.

A gwyn ei fyd y bawen a gasglo bower,
O! na fedrwn eu mudo, heb na rhif na meder,
Mae'n hawdd imi dd'allt mae nhw sy'n dduw,
A Nefoedd, gan amryw nifer.

Tom. Pwy bynag sy a'i dduw goruchel,
Na'i Nefoedd mewn un afel,
Heblaw yn y gwir air cywir cu,
Fe geiff ei nesn'n isel.

Mae llawr yn dewis duwiau
Mewn cywaeth yn y tai, neu'r caeau,
Yn eu cattel, neu llafur, peth bynag llai,
Ac mae ffoledd rhai'n eu ceffylau.

Ac mae llawer a'u pleser hyd y trefydd a'r plasau,
Lle mae'r byd a'i belydr, eu duw yw eu boliau,
A daw'r godinebwyr yw merched glan,
Hwy canlynan ar eu gliniau.

Lle bynag bo'r calonau, a llwybr y canlyniad,
Yno mae'r trysorau, waeth tewi na siarad,
Mae gan bawb ryw ddaw wrth ei feddwl ei hun,
I ddilyn ei addoliad.

Rinallt. Wel, ni wiw taeru na chadw twrw,
Fy nuw i ydyw'r arian byth byd farw,
Nid oes genyf hyder mewn dim o hyd
Ond golud y byd ac elw.

Tom. Wel, Tom tell truth ydwyf fi trwy'r eitha';
Waeth rhoi'r gwir tuag atoch heb fod yn gwta
Tra f'o chwi'n caru'ch clod a'ch mawl,
A'ch pywer, mae'r Diawl a'ch pia.

Rinallt. Wel, chwedl garw yn mhob ryw gyrion,
Ddewred a doethed ydyw pob cymdeithion;
Mae'n gas i ddynion glywed cymaint eu hairs
Fydd rhyw ysgolars gwaelion.

A rhyfedd fel y cyfyd ysgolheigion tîn caeau,.
Ffyliad penau 'gored, fu'n cerdded y cyrddau,.
Cheiff dynion ar fusnes ddim eiste'n hir,
Na fernir hwy mewn tafarnau.