Mae Cyriadox neu ryw goeg rediaeth,
Ymhob cwmni y nhw ydyw'r penaeth,
Ni fydd dŷn fymryn yn ei fyw,
Heb rigwm o ryw bregeth.
O! pobl dostion ydyw'r Methodistiad,
Rhuo am eu crefydd y bydda' nhw bob crafiad,
Ceir clywed y carpiau câs eu cuwch
Yn swnio'n uwch na'r Personiaid.
Fe geir gan y Person, yn llon, mewn llawenydd,
Ryw stori ddiniwaid,neu ddysgwrs papur newydd,
Yn fwynach na'r llymgwn sy'n mhob lle
A'r 'Sgrythyre' yn eu penau, beunydd.
Mae'r Personiaid enwog 'r un fath a dynion,
Y Suliau a'r wythnosau am y byd a'i fusnesion,
Ni dd'wedant hwy'n amser air o'i le,
Oni bydd y degymau'n geimion.
Ond gyda gwr ag arian gwneir popeth ar gorau.
Ran gwell gan y person gwmni gwyr y pyrsau,
Na'r carpiau tylodion sy byd y wlâd,
Yn cadw nâd am eu 'neidiau.
Sonian a chrafan am dduwioldeb a chrefydd;
Ni wn i fawr am dani, beth bynag yw ei dennydd,
Ond cymaint a welais neu a dreials i o droiau,
Am bob gwr ag arian doe drwyddi hi ar gorau.
Er son am ddoethineb, a rhyw drwst o'r fath hono,
Arian ydyw'r cwbl, hwy ant yn deg heibio,
Pe bae bobl dlodion a'u synwyr mor lydan,
Ni chânt fyth eu bwriad tra fythont heb arian.