Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni wnaethech chwi fawr at fynd yn g'waethog
Oni ddygech chwi dipyn oddiar gymydog.

Low. O! taw a son, fy machgen, am ladrad,
I g'wilyddio dy frawd sydd yn Offeiriad;
Lle b'o ŵr boneddig ar ben eiddo,
'Does dim wrthunach na thrwst fath hono.

Rin. Bon'ddigion braf ydych chwi ac yntau,
Diolch mawr i mi am fod gartreu;
Oni bae i mi weithio a ffyrnigo'n eger,
Ni thal'sai'ch bon'geiddrwydd chwi mor llawer.

Low Onid oedd dy Dad a minau'n boenus,
Yn gweithio cyn d' eni di'n ddigon daionos,
Wedi prynu tir, a chasglu llawer,
Cyn i ti ddysgu sychu dy grwper.

Ac nid oeddwn i ddim, mi fyna i chwi wybod,
Yn myn'd i'm priodi fel pob chwilenod;
Mi fu'm i saith mlynedd yn sêth ymloni,
Heb son am danat ti cyn d'eni.

'Roedd dy dad a minau'r nos yn ymuno,
I droi gwrthban rhyngom, rhag ofn doe rhyw wingo.
Ac os ae fe milain am ryw dro 'smala,
(Ai natur yn awchus) y fi droe'n ucha',

Rin. I grogi'r neb wyr, gan eich bod mor ddygyn,
Os gwn i pa fodd y cawsoch chwi blentyn.

Low Mi dd'weda i ti'n union, fy machgen anwyl,
Canwaith bu'n erchyll gan dy dad ffasiwn orchwyl


Ond pan oedd marchnad ddrud er's talwm,
Fe feddwodd rywsut yn ddireswm;
Ac yn y stabi bu caffio wrth drin y ceffyl,
Beth bynag mi sefais wrth fod yn rhy suful.

'Roedd dy Dad mor ddaionus, newydd i'w enaid,
Fe ddae'r flwyddyn hono bob peth ar ei ganfed,
Buwch a dau lo, a'th dithau yn drydydd,
Ni fa acw'rioed y ffasiwn gynydd.

Ac felly megais i di, fy machgen,
Ar unwaith a'r lloiau'n ddigon llawen,
A'th rwymo ar fy nghefn y byddwn i nyddu,
Oni fyddit ti'n fy nhiso i 'a wlyb diferu.

Ond roedd byd mwy diofal wrth fagu'th frawd Ifan
Mi eis i gadw morwyn, fe gostiodd im' arian;