Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac o ddweud iti'r hanes, f'aeth dy Dad ar hone,
Fe fu'r hen glapio'r mater, rhag drwg mwy eto.


Rin. A glywch chwi, mam, heb gam ymgomio,
Fe ga'dd Ifan fonheddig acw lawer o'n heiddo,
Rhwng ei gadw'n'r ysgol, a phob rhw esgus,
Mi wn i'n ddigwestiwn ei fod ê 'n bur gostus.


Low. Onid oedd y cwbl cyd-rhyngom pan fu'ch tad farw,
'Roedd raid felly'r haner ddigwydd i hwow,
Ac fi oedd yscutor, dda onor, ddaionus,
Onid allaf fi, felly, wneuthur fy 'wllys.


Rin. Soniwch am eich wllys, mi'ch gwna chwi'n archollion
Oni chaf i'n gafael y cwbl sydd gyfion,
Gan ei myn'd hi cyn belled,pe baech yn anmhwyllo
Ni chewch ond y traian, ni wiw 'chwi mor treio.


Low. Hold yno, weithian, gwna dy waethaf,
Myn y gwr o Rathin, mi gariaf fi'r eithaf,
Ni chei di lwy gwta gan i'r hen lygotwr,
Am iti gynyg gwneud yma gynwr.


Rin. Mi glywn ar fy nghalon oni bai rhag fy ngh'wilydd
Yr hwch annuwiol, roi i cbwi ywn newydd,
Merciwch chwi, hefyd, ni wnaf fi lai na chofio,
Os deliwch ataf, na thala'i chwi eto.


Exit


Low. Dy waethaf di, Rinallt, ni wiw iti draenio,
Ni 'rosai ddim rhagor, i gym'ryd fy nghrugo,
Mi 'madawaf â'r lleidr, cyn cymrwyf golledion,
Af at fy mab arall, ac a fyddaf fyw'n burion.


Mi gesglais arian a phob trysorau,
Ni choeliai neb gystal ydyw rhai o'r hen gistiau,
Mi guddiais arian lle na wyr yr hen Syre;
Peth garw ydyw garwch, mi ddo i drwyddi hi ar gore.


'D oes dim yn fy fecsio, mi golliais ben facsen,
Oedd ynddi'n hi ragor na deg punt ar hugien,
Ond ni hidia'i fytaten, mae can punt eto,
Genyf mewn bwndel tan walblaid y bondo.


Mae deg punt, yn swrcwd, wedi gwino'n fy syrcyn,
Ac ugain mewn maneg, tu draw i'r gist 'menyn;
O na welwn i'r mab sydd geny'n Offeiriad:-
Mae lwc imi, o'r diwedd,-dyma fe'n dywad.