Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENTER MR. EVAN OFFEIRIAD

Eich bendith fy mam , 'rwyf fi'n ei ofyn .

Low. Dyma ragor cynddeiriog rhwng dau blentyn,
Un yn ymostwng yma i mi,
A'r llall yn fy rhegi; O! rogun.

Ifan. What was the matter, dear Mother?

Low.O siarad Gymraeg, 'rwyf mewn natur hagar,
O ran dy frawd Rinallt, aeth yn waeth na draenog
I fygwth fy nghuro i'n annghrugarog.

Ifan. O dear, Mother, beth yw'r cythryfwl?

Low. Nid wyf mor fyddar ag mae rhai'n ei feddwl,
Mi glywa' ac mi wela'r peth leiciwyf fy hun,
'Rwy'n o sydyn ar fy sawdl.

Ifan. Beth aeth rhwng Rinallt a chwithau 'rwan?

Low. Wel, o'th achos di 'roedd e'n erthychan,
Ac yn ysgowlio â mi, rhag ofn fy mod
Yn dirwyn it' ormod arian.

Ifan. Well, I don't care, I'll do or goreu;
Gwell i chwi, Mam, dd'od gyda fi adreu;
Cewch barch mewn henaint, hynod ddrych,
A lliwdeg wych ddilladau.

Low. Mae dy wraig di'n Saesnes, fy machgen cryno,
Ni fedraf fi siarad gair â hono.

Ifan. Mi gadwaf forwyn deg ar dwyn,
At undeb mwyn, i'ch tendio.

Low.Cadw imi forwyn, 'delwi byth i Lanfwrog,
Oni fyddaf drwy orchest, yn hen wraig ardderchog
Mi ga' ngolchi drwy sebon, rhag edrych yn shaby.
Oni fyddai gan laned ag unferch y leni.

Mewn dillad newyddion pan weddus ymwisgaf,
Bydd llawer o'm deutu'n rhyfeddu pwy fyddaf.
Mi ddof, mewn mawrhydi, yn Lady dew lydan,
Heb na byd nag yslafri, os peidia'i ag yelefrian.

Gan gael fy myd cystal, 'delwy fyth i'r castell,
Onid oes ynddwi, 'n ddiochel, gryn lawer o ddicheli
Awn adre ein deuwedd, rydwy'n deallt
Y gwnawn ni driniaeth ar dy frawd Rinallt.

[Exit