Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ifan. Fy mam anwyl, rwyf fi'n dymuned,
Cym'rwch amynedd, yn ol eich myned,
I drin Rinalit ddrwg ei rôl;
Dof ar eich ol, rhof chwaliad.


Peth mawr yw rhediad a mawrhydi:
Nid rhaid i ddedwydd ond ei eni.
O lawenydd yma'n lân,
Adroddaf gân sydd geny'.

CAN AR RODNEY.

Wrth weled y gwaith hylwydd
Sy'n digwydd i bob dyn,
Mae Offeiriadau mewn hoff rydyd,
A gwynfyd mwy nag un;
'Does un gelfyddyd foddus
Mor barchus yn y byd;
Nag ysgafnach, drwy naws gefnog,
O fraint arianeg fryd;
Yr holl gwbl, ddwbl ddiben,
"Madrodd dewrllais, medru darllen;
Hawdd i ni, rhag poeni'n penan
Brynu 'n gwaethaf o bregethau;
Cawn o'r goreu gyr'edd anrhydedd, parch a rhól,
Gyda'g arian, gwiwdeg yriad,
Gwneir 'ffeiriad o ddyn ffôl.
Rhaid bod i Ustus, bwriad ystyr,
A Chounsellors enwog, a chlau synwyr,
A chyfreithwyr, chwerw frathiad,
Yn llawn dichell a bradychiad,
A'u triniad yn taranu,
Er hyny, gwneir mewn rhôl,
Gyda'g arian, gwiwdeg yriad, &c.
Rhaid i bob dull bywoliaeth
Sy'n ngalwedigaeth dyn,
Gym'ryd trwbwl fanwl fynych,
I edrych arno ei hun.
Nineu sydd a'n honor's
Yn rhychors i bob rhai,
A'r plwyfolion yn trafaelio,
I'n tendio ni yn ein tai.
Ni all Breninoedd, wiwfodd af'el,
Na bon'ddigion byw'n ddiogel,