Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Nag un a welir gan eì alwad,
ael personol fel Personiaid;
Rhaid i bob deiliaid wylio,
A rhwyfo'n gall eu rhôl,
Ond gydag arian gwiwdeg yrìad, &c..
Arian ydyw'r wawr bynodol Ê
Gyda'r Esgob, gwedi'r ysgol,
Groeg a Lladin, gwr goludog,
A'i ogoniant yw eì geiniog;
Ardderchog yw'r cywaethog,
A rhywiog y gwneir hôl,
Gydag arian, gwiwdeg yriad,
Yffyliaid yn wyr ffêl.

ENTER SIR TOM TELL TRUTH.

'Wel, nî wnaeth y diawl na'i deulu
Erioed amgenach canu;
Roedd gogoniant uffern yn ddigon têg,
Megis o'i gêg e'n mygu.;

Offeiriad. Who are you, the bald face rogue!
Tom. Nid y'ch chwitheu wr clên, pe tynid eich clog.
O. Don't talk to me, thou dirty snap.
Tom. O! nid pob ffwl sy'n cyr'edd cap.
O. I am a Clergyman of the Church.
Tom.Onid oes i chwi lwc fe ro'ir i chwi lurch.
O. What is the lurch shall come to my 'onor?
Tom. Siaredwch Gymraeg, mi dd'weda'i chwi ragor.
O. Beth rwyt yn bygwth arnaf fi mor bigog?
Tom. Am na fydde ynoch rinwedd, a chwithau mor enwog.
O. Pa rinwedd sy'n eisiau, os gwna'i nyledswydd?
Tom. Ni cheir cywion o wyddau lle bo ddrwg Ceiliagwydd
Na dim llwyddiant byth o'r praidd,
A'r bugeiliwr yn flaidd digwilydd.
O. Onid ydwy'n bugeilio 'nol 'r arfer gyffredin?
Tom. Manylach bryd cneifio nag hyd eu cynefin,
I ddangos y ffordd (rhag myn'd yn sied.)
A ddylai ddefaid, ddilyn.