Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

 
O Pa beth a ddangoswn yn rhagor na darllain?
Tom. Rhoi peth siampl da'n eich bywyd eich hunain,
Pe bai'r defaid yn adnabod eich llais chwibeth:
Yn lanwaith, hwy a'ch dilynen.
O i b'le y dilynant hwy ni, heblaw'n gwrando?
Tom. I'r Dafarn, yn eu ffoledd, neu hela neu ffowlio;
Ond mae'r byd yn o sharp, nid pob defence
All gym'ryd Licence gamio.
O Mae genym ni orchwyl rheitiach ei berchi.
Tom. Oes, pe canlynech chwi ffordd y goleuni,
Ond eich gwaith ydyw meddwi, a hwrio, am wn i,
Am eich degwm, a chysgu, a diogi.
Mae'ch corph chwi'n cyredd byd ar goreu,
Ond bywoliaeth annedwydd ay ar lawer o eneidiau,
Heb gael genych chwi, er maint eich tâl,
Ond un pryd sâl, y Suliau.
A hwnw'n afiachus, yn wir fynychaf—
'Ran wrth bregethu y byddwch chwi gwaethaf,
Fel pe rhoid y deillion i farnu, drwy'r wlad,
Lliw'r brethyn, neu'r dillad brithaf.
O Rwyt yn barnu personiaid on'd yw pawb yn synu.

[Exit


Tom. Mae'r gwir yn gyhoeddus, gwae'r sawl sy'n ei haeddu;
Ond am y rhai llesawl y'mbob man
Mae bendith yn rhan y rheiny.

Nid oes un i'w ga'mol na'i berchi'n gymwys,
O flaen efangylaidd weinidog eglwys,
Nag un fwy melltith na hwnw'n fyw,
Oni fydd Duw 'n ei dywys.

Dyna'r gwatwarwr sydd yn tario,
Yn stôl y gwatwar, erioed ac eto,
Ac efe yw'r lleidr erchyll hawl
Mwyaf mae'r diawl yn delio.

Sonir fod Herod yn ddyn mileinig,
Ni wnaeth ond gogleisio wrth rai gwyr eglwysig
Sy'n 'sglafaethu wrth eu pleser ddegymau'r plwy
A'r eneidiau sydd fwy enwedig,

Oni bae fod llawer yn pregethu ac yn llywio,
Yn onestach na Phersoniaid, ni fyddai wiw swnio,