Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae arnai bron chwant, yn hyn o fan
Bregethu fy hunan heno.

Mae genyf, i'w feddwl, dext cyfaddas,
Ynghylch godineb, mewn gwlad a dinas,
Trw'r hyn mae diawl ynghalon dyn,
Yn tadu gwenwyn gwynies.
Gwrandawed ieuengctyd hoywedd,
Ac hefyd gwyr a gwragedd,
Mae i bawb groeso, 'n gryf a gwan,
I dderbyn rhan o'i rinwedd.

CAN AR CUPID'S DREAM, NEU FREUDDWYD AR EI HYD.

Rhowch osteg ieangctyd, a diwyd wrandewch,
A chwitheu rai priod, naws hynod, nesewch,
Naturiaeth, nwy taeraidd, sy'n llygraidd ei llun,
Drwy gwynian drygioni, yn berwi mhob un,
Mae 'siamplau'r hyd y gwledydd, beunydd yn ddi ball,
Yn dangos yn gyffredin, mai gerwin ydyw'r gwall,
Gan mor fall amryw fûn,
I wrthsefyll hen ffasiwn temtasiwn cnawd dyn.
Truenus mewn ieuenctyd
Yw'r gwendid hwn ar goedd,
Pair wradwydd mewn priodas,
Mwy atcas yma oedd
Garwa bloedd, gwŷr a blys,
Neu wragedd rhywiogaidd dan lygraidd di lys.

Mae rhwymau priodas yn urddas fwynhad,
O'r eglwys oreuglod, mêr hynod mawrhad;
Ond anian godineb gwrthwyneb gerth yw,
Ffieidd-dra e'wilyddus anfoddus i fyw;
Pa'm rhaid i ŵr priodol ymorol am ddim mwy,
Un ddynes fo'n ddiana' wasnaetha'n eitha 'nwy.
Ni roed dwy yn rhaid dŷn,
Iawn ran un ar unwaith sy berffaith hob un;—
Un gwr yn anrhydeddus, lewyrchus, barchus ben,
Un wraig, un corph priodol,
Da siriol gnawd di sen.