Un asen wen, gynesa'n wir,
Ymysgaroedd ei phriod di anglod ar dir.
Mae felly gyfeillach da olliach rhwng dau,
A gario, drwy gariad, wiw rwymiad yr iau;
Ond gwr lle bo gordderch i'w draserch ar droed,
Ni ddaeth ond y felldith o ragrith erioed;
A gwraig, lle bo gair egwan, am wantan fuan fai,.
Pwy gyowys fwy drygioni, traeni mawr di drai,
A phwy a sai', mor hoff yn siwr.
Ag anwyl wraig ddirwest, fo gonest i'w gwr?
Gwych hefyd yw merch ifange,
Na allo un llange, mewn llid,
Ddweud unwaith air am dani, yn grech.i beri gwrid;
Gwyn ei fyd y gain wiw ferch,
A gadwo ddiweirdeb, cysondeb ca serch.
Fe ddylid byw'n ddilys ofalus ddifeth;
Mae'r cythrael yn gweithio neu'n pwytho 'mhob peth
Rhwng mab a merch ifange mae grafange e'n grych,
Rhwng gwr a gwraig briod oer drallod yw'r drych,
Y pechod hwn sy'n tynu i lygru aml an,
Mae lledrad mewn anlladrwydd, a chelwydd afiach
A llawer llun, llywio a lladd;
(wyn,
Mae'r pechod yn awchlym a grym o bob gradd."
A rhaid er mwyn anrhydedd, trugaredd am bob gwall,
I ddyn gael gweled gwaeledd,eilygredd fuchedd fall;
Troi nid all; y truan dwys.
Heb nabod oddi'chod, ei bechod yn bwys.