Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/36

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


Tom . Onid ydyw'r gair mewn llyfrau,
Mai hen leidr ceirw, yw'r park -keeper goren ,
A hen bechaduriaid sy fwya' doeth,
Am wneyd yn goeth bregethau.
Rin . Ond wrth dueddrwydd eu naturiaethau

Mae llawer yn llywio neu'n gweithio'u pregethau;
Heb feddu'n iawn na dawn na dysg,

Yn pwnio Yngwysg eu penau.
Bydd person meddw yn pregethu am sobri,
A pherson tlawd yn son am 'luseni,

A pherson c'waethog yn estyn ei big,
Ac yn barnu'n ddig am ddiogi .
Tom . Yr iawn athrawiaeth, araith oreu,
Yn lle gwrando rhai'n pwnio wrth eu penau ,

Ydyw adroddy gwir, er gwell ac er gwaeth ,
Wedi profi'n ffraeth o'u ffrwythau.

Nid yw'r holl gwbl ond dall.geibio ;
Bydd dynion dylion dan eu dwylo :
Son am у

Nef fel rhyw dref ar droed ,
Neu dinas heb erioed fod yno .

A son , a bloeddio , a rhybuddio byddis,
A bwrw tuag uffern bob drwg office,
A bod yno dân a brwmstan prudd.
Perygl, fel Mynydd Paris.
Ac fe'i berniff rhai hi'n mynydd Ætna,
Ond na chymrwn mo'n siomi, mae hi'n llawer nes
(yma ,
Yn gweithio beunydd yu y byd ,
Ymhob ynfyd ond y boenfa.
A phan elo'r corph i'r ddaearen ,
Eiff yspryd pob un i'w elfen ;

Gan hyny teimled pawb eu iaith ,
A'u hynod waith eu hunain.
Rin . Yn siwr mae genyt heddyw ,
Ryw ryfedd daeraidd dwrw;

'Rwy'n tynu'n awr at driugain oed ,
Ni fyfyriais erioed am farw .
Tom . Wrth gofio mae geny i chwi newydd chwerw Mae'ch mam anwyi wedi marw .
Rin . Naddo erioed , mi wrantaf fin

Oni ddigwyddodd iddi dori'i gwddw .