Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ran i'w Arglwydd ei hun, mae pob un lle bo,
Yn sefyll neu syrthio'n serthaidd.

Mae pawb wrth natur yn gyd-wastad.
Fel y cauer pob genau rhag un derchafiad,
Rhaid i bob un o dan eu baich,
Gael eu codi gan fraich y Ceidwad.

Tom. Wel gad ei chadw ar hyn o chwedel,
A chanu penill wrth ymadael;
Rhai safo'n llonydd yn eu lle,
Cant glywed hoff eirie o ffarwel.

YR EPILOGUE NEU'R DIWEDDGLO,
AR "MILLER'S KEY."

Y PUR wrandawyr diwyd sy'n hyfryd am fwynhau,
Y cnoiad cil, egniad calon, o SION i'w brashau.
Gobeithio am bawb weithian, yn 'r unfan yn ddiroch
Nad ydyw dysg yn cymysg yma
Fel taflu mana i'r moch;
Chwi welsoch yma o hyd
Ryw bynciau o ddull y byd,
Yn dangos nad yw mawredd
Heb gariad a thrugaredd, ond gwagedd oll i gyd;
Mae tlodi hynod lun,
Fel deddf yn rhwymo dŷn,
Rhaid cael yn rhad fawrhydi,
Neu weitho rhag tylodi, trwy boeni'n gaeth bob un.


DIWEDD.

JOHN JONES, ARGRAFFYDD, LLANRWST.