Tudalen:Tri chryfion byd.pdf/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENTER SIR TOM TELL TRUTH.

TRWY'ch cenad, heb gynen, â llawen ddull hoyw,
Dymuno yma silence, ac i bawb ddal sylw;
Chwi gewch ddyfyrwch yn ddi-feth,
Os torwch beth o'ch twrw.

Mae'n gofyn i bawb sy am wrando,
Roi pob ymddiddan heibio;
Ni ddichon neb ddeall unrhyw ddawn,
Neu 'stori, heb iawn ystyrio.

Cymyscaidd ieithoedd Babel
Sydd yma fynycha'n uchel;
Ni cheir, lle bo gynifer dŷn,
Ond ychydig yn un chwedel.

Mae dŷn wrth naturiaeth wedi tori'n druenus,
A'i feddyliau'n anwadal, yn falch ac yn wawdus,
Yn ymlid fal canghenau pren ar wynt,
Ryw helynt afreolus.

Fe dd'wedodd y sarph o'r dechreu
Y byddai dynion megis duwiau,
A'r balchder hwnw sy'n ffals ei wên
Yn glynu mewn hen galonau.

Can's fel hyn etto mae dyn wrth natur,
Yn dal yn arw am wneud Diawl yn eirwir,
Am fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun
Mae braidd bob dŷn a adwaenir.

Anfynych y clywir neb yn datgan
Histori neu hanes, heb ei ganmol ei hunan;
'Does dim yn derchafu ac yn clymu yn clêr
Mor sutiol a balchder Satan .

Mae balchder Cymry ffolion,
I ymestyn ar ol y Saeson ,
Gan ferwi am fynd o fawr i fach ,
I ddiogi’n grach fon'ddigion.

Os cant hwy ryw esgus o fod yn 'r ysgol,
Ni wiw am air o Gymraeg ymorol
They cannot talk Welsh nor understand,
Oni fyddir yn grand ryfeddol.