Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/106

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beth, ynte, yw y blodau eurlliw dysgleinio! yma? Buttercups, meddwch, dyna eu gelwir y ffordd yma.' Wel, ar yr olwg gyntaf, maent yn ddigon tebyg, ond gadewch i ni weled. Plygwn yn nes atynt. Welwch chwi, mae i'r blodau yma wyth—weithiau ragor—o fflurddail lathraidd—braidd na welwn ein llun ynddynt—tra nad oes i'r buttercups, fel y dangosais i chwi yn ystod un o'r troion o'r blaen, ond pump. Sylwch eto, mae y fflurddail yma'n hirgul, ac ni chyffwrdd un y llall—mae gwagle rhyngddynt, pan yn llydan agored. Pelydrant. Felly ffurfiant flodyn un ffunud a seren. Crynion, fel y cofiwch, yw fflurddail y buttercups, yn ymlapio'n ddel draws eu gilydd, ac gwneyd coronig ar lun cwpan heb fod yn ddwin. Eto, tynnwn un o'r blodau. Edrychwch dan y goronig. Welwch chwi, nid oes ond tair dalen yn gwneyd i fyny y flodamlen yma, tra y cyfansoddir blodamlen y buttercup, os ydych yn cofio, o bump o gibrannau—un am bob fflurddalen. Welwch chwi ddail y llysieuyn? Mae pob dalen yn gyfan—ar lun calon—yn dew, ac yn wyneblefn fel enamel. O'r ochr arall, blewog a geirwon yw dail y buttercups yn gynwysedig o ryw dair labed, a phob un wedi ei rhicio'n ddwfn, a'i daneddu, a'i minfylchu yn y ffurf fwyaf prydferth a chymesur. Unwaith eto. Sylwasoch, mae'n debyg—canys nis gallesech beidio—fod y blodau yma'n ymddangos, dan lwyn a gwrych, yn gynnar yn y flwyddyn. Parhant i oleuo gwyll eu lloches, ac i addurno eu cyniweirfan o ddechreu Mawrth i ddiwedd Mai. Ond am y buttercups, dadblygant hwy eu prydferthwch a lledant eu fflurddail i'r haul yn ddiweddarach, 'rol edwino a darfod o'r