Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ereill. Gwyrdd ydyw blodau crafanc yr arth,[1] a thafod y llygoden.[2] Ysgarlad fel iris yr edn yw llygad y goediar.[3] Porphor yw blodyn y Pasc[4] a'r columbine. Glas fel yr awyr yw yspardun y marchog,[5] a chwewll y mynach.[6] Gwynion yw blodau yr anemoni, a barf hir y gŵr hen,[7] ac egyllt y dwr,[8] a chrafanc y frân eiddew-ddail,[9] a llysiau Christopher.

Ceir y peony o amryw liwiau—coch, porphor, pinc, melyn, a gwyn. Aelodau ydyw yr oll o'r blodau gwahanliw yma o lwyth mawr a changhennog, yr egyllt neu grafanc y fran, a dygant oll ddelw y tylwyth. Hoffech chwi eu hadnabod?

Os cawn hwyl a hamdden, fe allai y cawn eu dangos a'u desgrifio i chwi, bob un yn ei dro.

Gawn ni symud ymlaen? Cerddwn gydag ochr yr hen fagwyr yma. Mae Natur garedig wedi gwisgo ei cherrig geirwon didreigl â thrwch O fwswgl gwyrddfelyn. Cuddia y mwswgl yma rigolau dyfnion y cerrig, rhed yn fân gangau plufog, fel traceries rhew ar wydr, ar hyd eu llyfnedd, ac ymdeitl dros eu hymylon yn eddi modrwyog. Oddirhwng cysylltiadau'r cerrig, a thrwy y cwrlid tyner tyf llysiau Robert, a phig yr aran, a lledant eu hesgeiriau rhuddgoch, cymalog, drosto mewn ystum o hawddfyd ac esmwythyd. Welwch chwi'r llyseuyn bitw bychan canghennog yma sy'n codi ei ben o'r mwswgl yn y fan hyn? Tri darn yw ei ddail, fel tri bys. Mae o wawr goch, ac yn

  1. Hellebore.
  2. Mouse-tail.
  3. Pheasant's eye.
  4. Pasque-flower.
  5. Larkspur.
  6. Monk's hood.
  7. Traveller's joy.
  8. Water crowfoot.
  9. Ivy-leaved crowfoot.