Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flewog a gludiog i gyd drosto. Cyffyrddwch ef a glŷn wrth eich bysedd. Coronir pob cangen gan flodeuyn gloew bychan gyda phump o flurddail gwynion. Dyma y tormaen tribys (rue-leaved saxifrage). Tyf y planhigyn yma, fel rheol, yn agenau y cerrig. Tybid yr holltai ei wreiddyn galedwch y graig er gwneyd lle iddo ei hun, ac am hynny y galwyd ef yn "tormaen." Yr un ystyr sydd i'r gair Saesneg saxifrage.

Trown ar y dde, a cherddwn ychydig ymlaen. Dyma ni yng nghanol y wig. Mae'r adar duon celgar yn clwcian, clwc, clwc, clwc, wrth ymgaru yng nghysgod y llwyni sy o'n hamgylch. Tarfir hwy gennym wrth basio, a hedant ymaith yn drystiog, fel arfer, gan whit-whit-whitio'n wyllt a chlochaidd yr adar gwirion! glywch chwi hwy?—nes disgyn o honynt yn y fan draw, bellter diogel, fel y tybiant, oddi wrthym. Edrychwch, mae nyth bronfraith yn y llwyn drain ar ein cyfer, a'r deryn yn eistedd arni. Nis gwelwn namyn ei big yr ochr yma a'i gynffon yr ochr draw. Mae ei gorff o'r golwg, yn llenwi cwpan y nyth. Mae yn deori. Clyw ni; neidia'n ddistaw oddiar ei nyth; a saif ar ei hymyl fel delw, gan edrych arnom yn synofnus, heb symud na chyhyr, na migwrn, na phlufen. Yr ydym yn symud ac yn cyffwrdd â'r llwyn. Tarfa yntau, edrych oddiamgylch, a llithra ymaith fel saeth ddistawed ag y gall, gyda "twit" isel, a "sw-i-i-sh" ysgafn—mor wahanol i'r deryn du, onide?—i un o'r llwyni. cylchynol i'n gwylio. Sylwn ar y nyth. Gwneir ei muriau allanol i fyny o fwswgl, a meuswellt, a main-wreiddiau, a dail, a mân frigau wedi eu cydwau a'u plethu i'w gilydd