yn y cywair lleddf na honno. Dechreua mewn nodyn a chywair uchel, rhed i lawr y raddfa, a chan dyneru'n raddol wrth fynd ymlaen, ymdodda 'r seiniau olaf fel murmuron i'r awyr. Gwisg seml, lwydwerdd, fel gwawr yr olewydd, sy ganddo, heb liw llachar ynddi oddigerth ychydig aur, fel hanner cylch, uwchlaw pob llygad. Dyma DELOR YR HELYG[1]—"bi-fach neudryw'r ddaear" plant Talybont Ceredigion. Mae yn un o'r adar crwydr—birds of passage. Daeth yma yn niwedd Mawrth neu ddechreu Ebrill, o'r de heulog, a dychwel yno yn niwedd Medi neu ddechreu Hydref. Mae ei delyneg fel acen gobaith neu lais y gwanwyn—clywir hi cyn "cwcw" cog, na "thwit" gwennol. Aderyn bychan sioce! dygi di, a dwg dy ysgogiadau buain, adgofion fyrdd i'm meddwl. Mae dy gân yn union yr un fath a chân dy geraint ddeugain haf yn ol, yng Nghoed Pryse, a Choed Dafis, a Banc Seiri—hen wigfaoedd ardderchog fy nghartref. Caraf hwy hyd y dydd hwn.
"How dear to this heart are the scenes of my childhood
When fond recollection recalls them to view,
The orchard, the meadow, the deep-tangled wildwood,
And every lov'd spot which my infancy knew."
—Wordsworth.
Mae ei gorffyn bychan del fel pe wedi ei wneyd o arian byw, neu wedi ei wau o belydrau'r goleuni gan mor nwyfus a sione y symuda. Neidia, picia, llamsacha o gangen i gangen i chwilio am drychfilod, a chynron, a mân bryfed
- ↑ Willow-warbler.