ereill, canys dyna ei ymborth. Piga hwynt oddiar y brigau, a thynn hwy o'r blagur. Rhwng y tameidiau ar ol pob golwyth-cana. 'Rwan mae ar frig y pren; mewn eiliad mae'n is i lawr; mae yma; mae acw; ac ymhen winciad mae yng nghanol y llwyn yn pigo, ac yn canu bob yn ail.
Glywch chwi ef? Edrychwch, wele ef rwan ar flaen cangen, yn ysbio allan dros ei hymyl, ac yn pyncio, pyncio. Gwel wybedyn yn ei basio dan ganu, fe allai. "Dyma damaid da," meddai, a llama'n bing i'r awyr; hed ar ei ol, igamogam, i fyny, i lawr, yn ol, ym mlaen, deil ef—llwnc ef—brysia'n ol i'r gangen, a chana eto. Ar amrantiad disgyn i'r llawr i hel arlwy rhwng yr irwellt. Chwilia am damaid yng nghwpanau'r milfyw, a phiga'r lindysyn o aur lygad y dydd. Ymsaetha i lwyn bychan sy o'i flaen—cana. Oddiyno adlama, crychneidia fel pêl, i fyny, i lawr, ar ol gwybedyn anffodus arall, ysglyfia hwnnwwith gusto-a disgyn yn ol, chwap, i'r llwyn, a phyncia drachefn. Gwarchod ni! mae yn chwimwth. Nid buanach, nid sydynach, yw crwydriadau astrus gwenfellten fforchog nag ehediadau gwibiog, trofaog yr edn bychan hwn. Mae wrthi eto. Rhed yn ysgafndroed ar hyd y cangau; estyn ei big i fyny; estyn ei big i lawr; teif hi'n ol dros ei ysgwydd a chipia. bryfyn bob tro. Dacw ef 'rwan ar y brig yn canu.
Wele delor arall, nwyfused ag yntau, yn dod heibio iddo,—ymgiprysant, tarawant fin wrth fin, ymsuddant i'r llwyn gerllaw. Ymnwyf-