Tudalen:Tro Trwy'r Wig.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ymborthi—yr aderyn bychan barus—ar flagur a gwillion coed afalau, eirin, gerllyg, eirin gwlanog, a choed ereill. Dyma ynte enw sydd yn ei daro i'r dim. Ond arhoswch, arferir hwn. eto am y rhawngoch! Waeth be fo. Mae gan hwnnw, fel epil pendefig, ddigon o enwau yn barod. Na warafuner i'r bullfinch, ynte, yr enw prydferth a chyfaddas, "coch y berllan.

A adwaenoch chwi'r "coch?" Awn allan i'r wig. Mae'r adar, mewn afiaeth, yn ym gymharu ac yn nythu,—

"Mae'r adar oll yn telori cerdd
Priodas yr Asgell Fraith."

Rhywle, oddirhwng cangau diddail yr onnen gerllaw, mwynbyncia y bronfraith ei serchgan. Nis gellir, yn hawdd, ganfod yr aderyn, canys cyfliw ydyw a brigau y pren. Ond y bronfraith ydyw; mae ei gân yn ei gyhuddo. Y fath chwibanogl! Gwrandewch! Shir, shir, shir, shir-yp shir-yp, shir-yp! Yna chwibaniad clir, perorol. Wedyn cyfres o chwibaniadau byrsain, clochog, buain. A ol hynny, trill —dirgryna, cwafria y llais—mae pob nodyn fel pe yn dawnsio, yn llemain, yn ysboncio yn nwyfus. Shir, shir, shir, shir-yp, shir-yp shir-yp! Chwibaniad treiddiol eto. Tryliad drachefn a thrachefn, nes ein synnu a'n swyno. 'Run pryd ar frigyn draenen draw, pyncia'r 'deryn du ei gathl yntau. Hawdd ydyw ei ganfod ef yn ei wisg loewddu. Mae ei big, o liw'r eurafal, fel pibell aur mewn cerfwaith o eboni, ac o honi dylifa ffrwd o'r beroriaeth fwyaf hudolus. Nid yw ei chwibaniad ef mor dreiddiol, ystwyth, a nwyfus, ag